Cyhoeddi manylion Maes C yn Eisteddfod Bro Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion Maes C fydd ar Faes y Brifwyl eleni am y tro cyntaf.
Bydd gweithgareddau'n cychwyn ddiwedd y prynhawn - nifer ohonyn nhw'n rhad ac am ddim i unrhyw un â thocyn i Faes yr Eisteddfod.
Bydd Dafydd Iwan yn y Pafiliwn ar y nos Lun, Caryl Parry Jones ar y nos Iau, a Gala Gomedi Gymraeg ar nos Fawrth.
A bydd twmpath teuluol yn adeilad Dawns ar nos Fercher gyda Tudur Philips o raglen Stwnsh S4C, a gig fyw yn Y Babell Lên ddiwedd prynhawn Sul gyda Dona Direidi, Oli Odl a chriw Cyw.
Yn Y Babell Lên nos Wener y bydd Y Stomp.
Ar ddiwedd y dydd bydd cerddoriaeth fyw ar y Llwyfan Perfformio gydag artistiaid fel Huw Chiswell, Bob Delyn a'r Ebillion a Maffia Mr Huws.
'Hygyrch'
Dywedodd y Prif Weithredwr, Elfed Roberts: "Rydan ni wedi bod eisiau arbrofi gyda Maes B a Maes C dros y blynyddoedd ac eleni rydym wedi cael y cyfle i wneud pethau'n wahanol.
"Mae mwy o Eisteddfodwyr yn awyddus i aros ar y Maes gyda'r nos i fwynhau'r awyrgylch gŵyl ...
"Felly dyma benderfynu canoli'r rhan fwyaf o'n gweithgareddau er mwyn eu gwneud mor hygyrch â phosibl i bawb.
"Mae gennym ni nifer fawr o adeiladau ar y Maes a llawer o'r rheini'n wag gyda'r nos.
'O'r newydd'
"Felly dyma benderfynu mynd ati i edrych ar Maes C o'r newydd a rhoi cartref i'n gweithgareddau ar y Maes."
Os yw unrhyw un yn dymuno dod i'r Maes ar ôl 4.30pm, meddai, bydd mynediad ar gael am £5.00 yn unig.
Mae manylion gweithgareddau ar wefan yr Eisteddfod neu drwy ffonio'r Llinell Docynnau ar 0845 4090 800.
Cynhelir yr Eisteddfod ar dir hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr rhwng Awst 4 ac 11.