Pencampwriaeth y Byd: Cymru Dan-20 74-3 Samoa Dan-20

  • Cyhoeddwyd
Wales U20sFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Cymru Dan-20 74-3 Samoa Dan-20

Mae tîm rygbi dan-20 Cymru wedi sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Pencampwriaeth y Byd gyda buddugoliaeth ysgubol dros Samoa.

Ar ôl trechu Fiji a Seland Newydd roedd Cymru yn hyderus ar gyfer y gêm yn Cape Town.

Sgoriodd Cymru'n hawdd, yn enwedig yn yr ail hanner gyda Tom Prydie yn sgorio 29 o bwyntiau, gan gynnwys dau gais.

Fe fyddan nhw'n wynebu Seland Newydd eto yn rownd y pedwar olaf ar Fehefin 17.

Roedd ceisiau hefyd i Eli Walker, Matthew Morgan, Ross Jones, Cory Allen, Tom Pascoe, Ellis Jenkins, Gareth Thomas, Ieuan Jones a Darren Harris.

Roedd Cymru ar y blaen o 25-3 ar yr egwyl ac eisoes wedi ennill pwynt bonws.

'Ceisiau gwych'

Dywedodd hyfforddwr y tîm dan-20, Danny Wilson: "Rwy'n falch iawn o'r chwaraewyr.

"Roedd hon yn gêm allai fod yn anodd ac roedd hi'n bwysig i ni berfformio'n dda o'r dechrau.

"Fe wnaethon ni hynny, gan sgorio ceisiau gwych, ac fe ddaeth nifer o chwaraewyr o'r fainc a chwarae'n dda.

"Roedd yn wych o safbwynt y garfan."

Cymru yw'r tîm cyntaf yn hanes y gystadleuaeth i guro Seland Newydd dan-20 - o 9-6 - ac mae Wilson o'r farn y bydd hynny'n bwysig wrth baratoi am y rownd gynderfynol.

"Rydym wedi eu curo nhw unwaith ac felly wedi goresgyn y naid seicolegol yna.

"Wrth gwrs, fydd dim modd synnu Seland Newydd yn yr ail gêm ond fe fyddan nhw yn ein parchu gan mai ni yw'r detholion cyntaf bellach.

"Rydym hefyd yn benderfynol o chwarae cystal os nad gwell nag yn y gêm gyntaf."

Bydd y rownd gynderfynol yn stadiwm Newlands yn Cape Town ddydd Sul am 6:00pm yn ein hamser ni.

Cymru dan-20: Ross Jones (Gweilch); Tom Prydie (Dreigiau), Cory Allen (Gleision), Thomas Pascoe (Gleision), Eli Walker (Gweilch); Matthew Morgan (Gweilch), Tom Habberfield (Gweilch); Rob Evans (Scarlets), Kirby Myhill (capten, Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Rhodri Hughes (Gweilch), Matthew Screech (Gleision), Luke Hamilton (Gleision), Daniel Thomas (Scarlets), Dan Baker (Gweilch).

Eilyddion: Darran Harris (Gleision), Gareth Thomas (Cwins Caerfyrddin), WillGriff John (Gleision), Ieuan Jones (Dreigiau), Ellis Jenkins (Gleision), Jonathan Evans (Dreigiau), Sam Davies (Gweilch), Jack Dixon (Dreigiau).