Beirniadu Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Hen westy River Lodge, Llangollen
Disgrifiad o’r llun,
Roedd 'na fwriad i greu tua 15 o swyddi cynaliadwy

Mae corff swyddogol wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am brynu gwesty yn Llangollen am £1.6 miliwn gan alw'r penderfyniad yn un "diffygiol' a ddim yn werth da am arian.

Yn ôl adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ni ddylid chwaith fod wedi cytuno i arwyddo prydles gyda menter gymunedol Powys Fadog.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gwersi wedi eu dysgu.

Fe gafodd Gwesty River Lodge ei brynu ym mis Mawrth 2007 gyda'r bwriad o helpu Powys Fadog i ddatblygu canolfan leol ar gyfer iechyd, cadw'n heini ac addysg.

Y nod oedd creu tua 15 o swyddi cynaliadwy llawn a rhan amser o fewn tair blynedd.

Asesiad risg

Ond dywed adroddiad yr Archwilydd fod tystiolaeth yn awgrymu fod Llywodraeth Cymru wedi talu mwy na gwerth yr eiddo ac nad oedden nhw wedi "cynnal asesiad risg cadarn".

Dywed yr adroddiad fod yna hefyd wrthdaro buddiannau ac i Lywodraeth Cymru beidio ag ymateb mewn "ffordd ddigonol i liniaru'r gwrthdaro hwn".

Mae'r adeilad wedi bod yn wag ers ei brynu pum mlynedd yn ôl.

Fe fethodd Powys Fadog a bodloni telerau'r cytundeb, sef eu bod â digon o arian i ymgymryd â gwaith atgyweirio a bod yna ddigon o arian i dalu'r rhent.

Ar ôl i'r cytundeb gyda Powys Fadog ddod i ben ym mis Mehefin 2011 mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio, yn aflwyddiannus, i ddod o hyd i denant newydd.

"Yn ogystal â'r pris prynu, sef £1.6 miliwn, rhwng 2007 a 2012 mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i gostau o £200,000 - sy'n cynnwys cynnal a chadw, diogelwch ac ardrethi busnes a dŵr," meddai Swyddfa'r Archwilydd.

Ar ôl i amheuon godi am werthu River Lodge yn ystod 2009 a 2010 fe wnaeth Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru gomisiynu dau adolygiad mewnol a gofynnodd am arfarniad o'r opsiynau ar gyfer yr eiddo.

Ym mis Medi 2011, oherwydd y pryderon cyhoeddus sylweddol, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Parhaol at yr Archwilydd Cyffredinol yn gofyn am archwiliad annibynnol o'r penderfyniadau a wnaed.

'Gwrthdaro buddiannau'

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r adeilad wedi bod yn wag ers blynyddoedd

"Mae gwersi pwysig i'w dysgu o'r ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ymdrin â'r broses o brynu ac wedyn ddefnyddio Gwesty River Lodge yn Llangollen," meddai Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru, Gillian Body.

"Ymhlith y diffygion roedd asesiadau cyfyngedig o risg, ymdrin ag achos o wrthdaro buddiannau mewn modd annigonol, methu â chynnal adolygiadau diwydrwydd dyladwy ar Powys Fadog, a dim arfarniad o ddewisiadau amgen i gynnig Powys Fadog.

"Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu a gwella ei threfniadau llywodraethu a'i harferion rheoli, a fydd, gobeithio, yn gwella cadernid y penderfyniadau a wneir ganddi ar gyfer buddsoddiadau tebyg yn y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru eu bod yn derbyn casgliadau'r adroddiad gafodd ei gomisiynu ar gais yr ysgrifennydd parhaol ar ôl arolwg mewnol.

"Bydd yr adroddiad yn help i waredu llawer o'r cam wybodaeth yn ymwneud a'r prosiect hwn, ac rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth gan y Swyddfa Archwilio fod ymyrraeth yr Ysgrifennydd Parhaol yn ddoeth ac angenrheidiol.

"Ond rydym yn derbyn yn amlwg fod nifer o wersi i'w dysgu o'r modd y gwnaethom brynu River Lodge a'r ffordd y cafodd y prosiect ei reoli.

"Yn sgil hyn rydym wedi cryfhau ein systemau rheoli i leihau'r risg yn y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol