Achos Ege: 'Tad ddim yn gwybod'
- Cyhoeddwyd

Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed yr amddiffyn yn crynhoi tystiolaeth yn achos tad ar gyhuddiad o ganiatáu i blentyn farw drwy fethu ei amddiffyn.
Honnodd Peter Burkitt QC nad oedd Yousuf Ege yn gwybod fod ei wraig, Sara, yn curo eu mab saith oed, Yaseen, am bedwar mis cyn ei farwolaeth.
Dywedodd Mr Burkitt nad oedd unrhyw un arall wedi amau'r fam dros gyfnod o bedwar mis.
Yn ôl yr amddiffyn, roedd athrawon ysgol wedi eu hyfforddi ynglŷn ag arwyddion cam-drin plant.
Heb gwyno
"Ond ni ddigwyddodd hynny yn achos Yaseen," meddai Mr Burkitt.
Dywedodd mai'r rheswm am hynny oedd bod Yaseen heb gwyno.
Ychwanegodd fod y bachgen yn ffyddlon i'w fam.
"Dyna oedd natur y bachgen bach yma. Mi ddioddefodd yn dawel."
Clywodd y rheithgor nad oedd yr ysgol wedi cysylltu â'r tad oherwydd pryderon am Yaseen, dim ond â'r fam.
Dywedodd Mr Burkitt fod y trais wedi digwydd pan nad oedd y tad yn bresennol.
Mae'r fam wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Anallu
Ac mae hi wedi honni mai ei gŵr, laddodd eu mab.
Mae'r erlyniad wedi honni bod y fam wedi lladd ei mab oherwydd ei anallu i ddysgu'r Coran ar ei gof.
Cafodd corff Yaseen ei ddarganfod wedi tân yn ei gartre yng Ngorffennaf 2010.
Clywodd y llys fod y mab wedi marw oherwydd anafiadau yr un diwrnod.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 11 Mehefin 2012
- 23 Mai 2012
- 2 Mai 2012
- 1 Mai 2012