Pencadlys paneli solar Sharp i symud i Gymru?
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i gwmni sy'n cynhyrchu paneli solar gyhoeddi ei fod yn symud ei bencadlys Ewropeaidd o Hamburg yn Yr Almaen i Wrecsam.
Fe allai cwmni Sharp Solar, sy'n cyflogi 500 yn Llai, gadarnhau'r buddsoddiad yr wythnos hon mewn cynhadledd yn Munich.
Daeth y stori i'r amlwg ar ôl adroddiadau ym mhapurau newydd sy'n arbenigo mewn masnach.
Dyw hi ddim yn glir a fydd newid lleoliad y pencadlys yn creu mwy o swyddi yn Wrecsam.
Gwnaed cais i Sharp am sylw.
Yn ôl adroddiadau mae Andrew Lee, rheolwr cyffredinol adran masnachu solar Sharp, wedi dweud wrth wefan BusinessGreen, y byddai symud y pencadlys yn creu "canolfan rhagoriaeth" ar gyfer solar yn y Deyrnas Unedig.
Yn ogystal â'r safle cynhyrchu yn Wrecsam mae gan Sharp labordy ymchwil yn Rhydychen.
Ar ddechrau 2011 fe gyhoeddodd Sharp y byddai cynllun buddsoddi £30 miliwn yn safle llai yn creu 300 o swyddi newydd.
Mae 'na adroddiadau hefyd bod Cyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru yn paratoi datganiadau cyn diwedd yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2011