Cyhoeddi cynllun i gydweithio a thaclo canser
- Cyhoeddwyd

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi lansio strategaeth i ostwng achosion o ganser a gwella'r gofal ar gyfer pobl sydd â chanser.
Mae'r cynllun pum mlynedd, 'Gyda'n Gilydd yn Erbyn Canser', yn canolbwyntio ar bwysigrwydd diagnosis cynnar, llawdriniaethau a thriniaethau llwyddiannus eraill.
Mae taclo canser a'r sgil effaith ar draws Cymru, yn un o addewidion rhaglen iechyd Llywodraeth Cymru.
Cafodd y strategaeth ei lansio gan y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths yn Ysbyty Maelor Wrecsam ddydd Iau.
Mae'n nodi disgwyliadau'r llywodraeth o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wrth daclo canser pobl o bob oed lle bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru a beth bynnag yw eu hamgylchiadau.
Mae un o bob tri o bobl yng Nghymru yn diodde' o ganser cyn eu pen-blwydd yn 75 oed.
Goroesi
Caiff pedwar o bob 10 person ganser rhywbryd yn eu bywydau.
Mae'r cynllun yn:
- edrych ar y canlyniad dymunol o ran poblogaeth a sut i fesur llwyddiant;
- y canlyniad disgwyliadwy ar gyfer pobl o ran eu gofal canser;
- sut y byddwn ni'n mesur llwyddiant y gwasanaeth iechyd a'r lefel o berfformiad erbyn 2016 drwy Gymru;
- themâu ar gyfer y gwasanaeth iechyd i weithredu, gyda phartneriaid, ar gyfer y cyfnod hyd at 2016.
"Mae gan Gymru y lefel ucha' o ran cynnydd mewn goroesi yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf," meddai Ms Griffiths.
"Mae'r nifer sy'n defnyddio rhaglenni sgrinio ymhlith yr uchaf yn Ewrop ac rydym yn parhau i wneud buddsoddiadau sylweddol mewn triniaethau ac ymchwil."
Ond dywedodd bod angen gwneud mwy, bod angen i fwy o bobl oroesi canser a hynny yn bennaf yn y cymunedau llai breintiedig.
"Elfen bwysig o'n gwaith yw defnyddio profiad pobl o ofal canser i allu gwella gwasanaethau.
"Mae'n amser i'r byrddau iechyd lleol gymryd yr arweiniad, gweithio yn effeithiol gyda'r ymddiriedolwyr, meddygon teulu, fferyllfeydd, deintyddion, optegwyr, llywodraeth leol, y trydydd sector ac eraill i gyflwyno gwasanaeth gofal canser."
Adroddiad Merfyn Davies
Cefnogaeth
Ychwanegodd Ms Griffiths na fydd Cronfa Cyffuriau Canser yn cael ei gyflwyno yng Nghymru,
Dywedodd nad oes 'na dystiolaeth bod hyn yn gwneud gwahaniaeth.
"Mae 'na dystiolaeth yn hytrach bod cysylltiad agosach o oroesi canser efo diagnosis cynnar a thriniaeth na chyffuriau a dyma sydd yn y cynllun a gyhoeddwn."
Mae elusen Macmillan Cymru wedi croesawu'r cynllun.
Maen nhw wedi bod yn cydweithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynllun.
"Fe ddylai pob bwrdd iechyd nawr gyflwyno eu cynlluniau canser eu hunain a sicrhau cysondeb ar draws bob un o'r byrddau," meddai Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Macmillan Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd23 Mai 2012
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011