Pedwar newid i dîm Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r hyfforddwr Rob Howley wedi gwneud pedwar newid yn nhîm Cymru i'r un gollodd y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn diwethaf.
Ymysg y blaenwyr y mae tri o'r newidiadau.
Bydd Matthew Rees yn dychwelyd i'r rheng flaen yn lle Ken Owens, sydd ddim yn cael lle ar y fainc hyd yn oed.
Yn yr ail reng, bydd Alun Wyn Jones yn dod i mewn i gymryd lle Luke Charteris wedi iddo fod yn gapten ar y pymtheg enillodd eu gêm ganol wythnos yn erbyn ACT Brumbies.
Yn dilyn anaf Toby Faletau, sydd eisoes wedi dychwelyd i Gymru wedi iddo dorri asgwrn yn ei law, bydd Ryan Jones yn dod i mewn i'r rheng ôl.
Yr unig newid ymysg yr olwyr yw bod Ashley Beck yn ennill ei ail gap yn y canol yn lle Scott Williams.
'Profiadol'
Dywedodd Howley: "Rydym wedi dewis tri chwaraewr profiadol iawn i'r pac gan i'r tri greu argraff wrth ddod o'r fainc yn y prawf cyntaf sydd wedi cyfiawnhau eu cynnwys ar ddechrau'r ail brawf.
"Nos Fawrth fe wnaeth perfformiadau Ashley Beck, Justin Tipuric, Richard Hibbard a Rhys Webb ddal y sylw, ac maen nhw'n haeddu eu lle yn y garfan.
"Ar ôl dwy gêm yn Awstralia, rydym wedi ymgynefino bellach ac yn barod am her enfawr arall ddydd Sadwrn yn Melbourne."
Tîm Cymru v. Awstralia - Ail Brawf: Stadiwm Etihad, Melbourne: Dydd Sadwrn Mehefin 16 :-
Olwyr -
15. Leigh Halfpenny
14. Alex Cuthbert
13. Jonathan Davies
12. Ashley Beck
11. George North
10. Rhys Priestland
9. Mike Phillips
Blaenwyr -
1. Gethin Jenkins
2. Matthew Rees
3. Adam Jones
4. Bradley Davies
5. Alun Wyn-Jones
6. Dan Lydiate
7. Sam Warburton (capten)
8. Ryan Jones
Eilyddion :- Richard Hibbard, Paul James, Luke Charteris, Justin Tipuric, Rhys Webb, James Hook, Scott Williams.
Straeon perthnasol
- 12 Mehefin 2012
- 9 Mehefin 2012