Cwmni'n creu hyd at 100 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni rhyngwladol DS Smith yn agor canolfan newydd yng Nghaerffili, gan greu hyd at 100 o swyddi.
Cyflenwi deunydd pacio eildro ar gyfer nwyddau mae'r cwmni.
Ym Mharc Busnes Caerffili y mae'r ganolfan lle bydd yr adrannau Technoleg Gwybodaeth, Personel a Chyllid yn cael eu canoli.
Eisoes mae prif swyddfa gwaith ailgylchu'r grŵp yng Nghaerffili, yn cyflogi 88 o'r cyfanswm o 392 yng Nghymru.
Mae £436,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru yn diogelu 22 o swyddi.
'Yn fwy effeithiol'
Dywedodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart AC: "Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi helpu i wneud yn siŵr bod y ganolfan wasanaethu newydd yn dod i Gymru a bod y buddsoddiad yn mynd yn ei flaen yng Nghaerffili.
"Rwy'n falch bod y gwaith wedi dechrau ar ddodrefnu'r ganolfan newydd fydd yn golygu manteision uniongyrchol ac anuniongyrchol i'r economi leol ...".
Dywedodd Peter McGuinness, rheolwr gyfarwyddwr DS Smith Recycling: "Bydd ein canolfan wasanaethu newydd yn ein galluogi i weithio'n fwy effeithiol ac, yn y pen draw, i roi gwasanaeth gwell i'n cleientiaid tra'n cynnal amgylchedd gwaith cynaliadwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2011