Mam yn gwadu llofruddio ei babi chwe wythnos oed

  • Cyhoeddwyd
Michelle SmithFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r diffynnydd wedi gwadu'r cyhuddiad.

Mae mam wedi bod yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio ei babi chwe wythnos oed trwy ei gwenwyno â chyffuriau lleddfu poen oedd yn addas ar gyfer oedolion yn unig.

Yn Llys y Goron Abertawe honnodd yr erlyniad bod Michelle Smith, 34 oed o Dreforys, wedi cymysgu dihydrocodeine â bwyd ei merch, Amy Louise, oriau yn unig ar ôl i ymwelydd iechyd ei gweld mewn cyflwr "o'r radd flaenaf".

Mae'r diffynnydd wedi gwadu'r cyhuddiad.

Dywedodd yr erlynydd, Chris Clee, fod y fam eisoes yn gwybod beth fyddai effaith y cyffur ar ei babi gan fod Amy wedi gorfod cael triniaeth ysbyty ddwywaith cyn ei marwolaeth yn Nhachwedd 2007.

Ar ôl i'r fam gael ei harestio fe wadodd ei bod wedi rhoi unrhyw feddyginiaeth i Amy "ddim hyd yn oed Calpol."

Neges destun

Ond, meddai'r erlynydd, ar Ionawr 6 anfonodd hi neges destun i'w thad yng nghyfraith yn dweud ei bod yn mynd i "ildio ei hun".

Wedyn, fwy na phedair blynedd ar ôl marwolaeth Amy, cerddodd hi i mewn i orsaf heddlu Castell-nedd, a dweud: "Fi laddodd Amy."

Clywod y rheithgor fod y fam i dri wedi arwyddo llyfryn heddwas yn cadarnhau'r hyn ddywedodd.

Bum munud yn ddiweddarach fe dynnodd ei "chyffesiad" yn ôl.

Mae disgwyl i'r achos bara am bedair wythnos.