Caerdydd yn teithio i Northampton
- Cyhoeddwyd

Bydd ymgyrch Caerdydd yng Nghwpan Capital One yn dechrau yn Northampton y tymor nesaf.
Wrth i dîm y brifddinas geisio efelychu camp y tymor diwethaf i gyrraedd Wembley, daeth yr enwau o'r het ar gyfer rownd gyntaf y gystadleuaeth o dan ei enw newydd - dyma oedd Cwpan Carling y tymor diwethaf.
Pe bai Wrecsam wedi ennill dyrchafiad i'r Gynghrair Bêl-droed yn hytrach na York City, fe fydden nhw'n teithio i wynebu tîm eu cyn-reolwr Dean Saunders, sef Doncaster.
Fel un o glybiau'r Uwchgynghrair, bydd Abertawe yn dod i mewn i'r gystadleuaeth yn yr ail rownd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012
- Cyhoeddwyd11 Mai 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol