Twyll: Carchar i gyn-gynghorydd tref yn Sir Fflint

  • Cyhoeddwyd
Michael MillsFfynhonnell y llun, Andrew Price
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Michael Mills iddo deimlo'n euog wedi marwolaeth ei wraig

Mae cyn gynghorydd tref yn Sir Fflint wedi ei garcharu am naw wythnos ar ôl i lys glywed iddo hawlio budd-dal ar ran ei wraig ar ôl iddi farw.

Fe aeth Michael Mills i'r Swyddfa Bost bob wythnos i hawlio budd-dal ar ran ei hun a'i wraig farw.

Defnyddiodd y cyn löwr 64 oed ei cherdyn pensiwn hi 110 o weithiau.

Clywodd Ynadon y Fflint fod Mills wedi hawlio £21,357 drwy dwyll.

Plediodd y diffynnydd o Faesglas ger Treffynnon yn euog i 14 cyhuddiad o dwyll.

Honnwyd yn y llys ei fod yn teimlo'n euog wedi iddo gytuno i ddiffodd peiriant cynnal bywyd ei wraig, Brenda, ac nad oedd wedi dod i delerau gyda'i marwolaeth.

Lwfans anabledd

Roedd Mills yn gyn-gynghorydd tre yn Nhreffynnon.

Clywodd y llys fod taliadau o £40 yr wythnos yn enw ei wraig ar ôl iddi farw a hefyd lwfans anabledd o £402 y mis.

Bu farw ei wraig ar Ionawr 23, 2010, a chafodd Mills ei arestio ar Ionawr 16 eleni.

Gwrthododd wneud unrhyw sylw ar ôl cael ei arestio.

Daeth i'r amlwg hefyd ei fod wedi celu'r ffaith ei fod yn derbyn pensiwn glöwr.

44 o flynyddoedd

Roedd Mills wedi derbyn £21,357 yn anghyfreithlon - gan gynnwys £2,089 o gredyd pensiwn, £5,239 o lwfans gofalu, £4,066 o bensiwn y wladwriaeth a £9,962 o lwfans anabledd.

Dywedodd Brian Cross ar ran yr amddiffyn fod y cwpl wedi bod yn briod am 44 o flynyddoedd.

Clywodd y llys fod gwraig y diffynnydd yn hynod wael a bu'n gofalu amdani am bum mlynedd.

Ar gyngor meddygon fe benderfynwyd diffodd peiriant cynnal bywyd.

Dywedodd Mr Cross fod y diffynnydd yn ei chael hi'n anodd i ddod i delerau â'r penderfyniad a bod hyn wedi effeithio arno.

"Mae'n edifarhau ac am ymddiheuro am ei ymddygiad."