Rhybudd y bydd 'mwy o law'

  • Cyhoeddwyd
Parc carafanau Riverside ar ôl y llifogyddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Parc carafanau Riverside yng Ngheredigion ar ôl y llifogydd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus.

Er nad oedd rhybuddion llifogydd mewn grym brynhawn Iau, mae'r asiantaeth wedi dweud eu bod yn cadw llygad barcud ar lefelau afonydd.

Dywedodd cyflwynydd tywydd BBC Radio Cymru, Rhian Haf: "Er iddi ddechrau'n sych ac eithaf braf ddydd Iau, mae'n troi'n wlyb ac yn wyntog y prynhawn 'ma wrth i sawl ffrynt ledu o'r de-orllewin.

"Bydd y gwynt yn cryfhau a'r glaw'n cyrraedd sir Benfro a sir Gaerfyrddin."

Dywedodd yr asiantaeth y byddai'r glaw'n effeithio ar y rhan fwya o'r wlad ac yn drymach ar dir uchel.

'Yn stormus

"Er iddi droi'n sychach dros nos, mi neith hi droi'n stormus eto ddydd Gwener," meddai Rhian Haf.

"Bydd y gwynt yn gryf, bydd 'na gyfnodau o law trwm, cenllysg a tharanau, a bydd mwy o wynt a glaw dros y penwythnos, yn enwedig dydd Sadwrn."

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Gan fod y tir eisoes yn wlyb, gallai lefelau'r afonydd godi wedi glaw pellach.

"Mae ein staff yn parhau i weithio yn yr ardaloedd lle oedd y llifogydd yr wythnos ddiwethaf - er mwyn sicrhau nad yw amddiffynfeydd wedi eu difrodi ac nad oes rhwystrau mewn afonydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol