Angladd capten o gatrawd y Cymry Brenhinol
- Cyhoeddwyd
Cafodd angladd milwr o gatrawd y Cymry Brenhinol a gafodd ei ladd yn Afghanistan ym mis Mai yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd.
Bu farw y capten Stephen James Healey, 29 oed, o Gaerdydd wedi i ddyfais ffrwydro ger y cerbyd yr oedd e'n teithio ynddo yn Nhalaith Helmand ar Fai 26.
Cafodd gymorth cyntaf cyn cael ei gludo i ysbyty milwrol yn Camp Bastion lle cadarnhawyd ei farwolaeth.
Ymunodd y capten Healey â'r fyddin yn 2007 ac fe gafodd ei gysylltu â Bataliwn Cyntaf y Cymry Brenhinol yn 2008.
'Swyddog milwrol gwych'
Cyn graddio mewn Gwyddorau Chwaraeon o Brifysgol Abertawe roedd yn un o brentisiaid Clwb Pêl Droed Abertawe.
Yn yr angladd yn Eglwys Babyddol Sant Cadoc, Llanrhymni, fe gafwyd anrhydeddau milwrol llawn.
Dywedodd ei bennaeth milwrol, yr is-gyrnol Stephen Webb MC, y byddai'r capten Healey yn cael ei gofio fel "un o'r arweinwyr mwyaf proffesiynol a charismataidd gafodd unrhyw un ohonom y fraint o wasanaethau â nhw."
"Roedd yn swyddog milwrol gwych ac unigolyn heb ei ail."
Roedd y Capten Healey hefyd yn codi arian ar gyfer elusennau ac ym mis Chwefror eleni fe gerddodd o Gaer i Landudno gyda mwgwd dros ei lygaid i godi arian i gyn-filwyr sydd wedi cael eu dallu.
Enwyd y capten Healey mewn adroddiadau yn 2009 yn dilyn ei weithredoedd pan oedd yn gwasanaethu yn Afghanistan.
Yn 2010 fe siaradodd am y profiad o oroesi digwyddiad pan gafodd y cerbyd roedd yn teithio ynddo ei daro gan ddyfais ffrwydrol.
Mae'r capten Healey yn gadael ei rieni, John a Kerry, ei frawd Simon a chariad Thea.
Straeon perthnasol
- 28 Mai 2012
- 27 Mai 2012