Hyrwyddo'r Brifwyl ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Baneri'r EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y baneri i'w gweld drwy'r Fro

Gyda 50 niwrnod i fynd cyn y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cychwyn ym Mro Morgannwg mae'r gwaith o baratoi wedi cychwyn.

Ddydd Gwener roedd yr Eisteddfod allan yn y Fro i siarad â chynrychiolwyr busnes a lansio ymgyrch fflagiau.

Roedd y daith yn cychwyn yn Llanilltud Fawr bore Gwener wrth lansio ymgyrch fusnes cyn symud ymlaen i Sain Tathan i siarad gyda'r trigolion yno am ymweliad yr Eisteddfod a fydd ymhen llai na dau fis.

Bwriad ymgyrch Ffoli ar Fflagiau yw annog busnesau lleol yn nalgylch yr Eisteddfod i ddangos eu cefnogaeth i'r Brifwyl.

Mae dros 10 cilometr o fflagiau eisoes wedi eu cynhyrchu ac yn ystod yr wythnosau nesaf y gobaith yw y byddan nhw i gyd yn cael eu chwifio a'u harddangos ym mhob cwr o ddalgylch yr Eisteddfod.

Cafodd busnesau lleol gyfle i fynychu brecwast busnes yn gynharach eleni, ac mae nifer fawr hefyd wedi derbyn pecyn busnes drwy law'r pwyllgor apêl lleol.

'Hwyl yr ŵyl'

Wrth agosáu at yr Eisteddfod ei hun, eu gobaith yw y bydd y busnesau lleol yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth drwy addurno'u ffenestri a thrwy ddangos posteri a fflagiau Croeso ym mhob man.

"Rydym yn awyddus i bawb fod yn rhan o'r dathlu a chael cyfle i ddangos eu cefnogaeth i ddyfodiad yr Eisteddfod. Rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn ymuno'n hwyl yr ŵyl," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

"Yn ddi-os, mae dyfodiad yr Eisteddfod yn bwysig i fyd busnes, a chydag effaith economaidd o rhwng £6-£8 miliwn yn lleol yn ystod yr wythnos, mae'n bwysig bod y sector preifat yn cydio ym mhob cyfle i farchnata'u hunain a denu cwsmeriaid, ac mae dangos eich cefnogaeth i'r Eisteddfod yn ffordd dda o ddangos i'n hymwelwyr ni bod croeso'n eu haros yn eich busnes chi."

Dydd Gwener hefyd mae'r Eisteddfod wedi lansio cystadleuaeth arbennig, Ffenestr Siop yr Eisteddfod Genedlaethol.

Y bwriad yw gwobrwyo'r perchnogion, sydd wedi mynd i drafferth i addurno'u ffenestr siop i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod.

Noddir y gystadleuaeth ar draws y dalgylch gan Sefydliad y Merched.

Y llynedd, roedd cynifer o fusnesau o ardal Coedpoeth, Wrecsam, wedi addurno'u ffenestri a dangos eu cefnogaeth i'r Eisteddfod, fel y penderfynwyd gwobrwyo'r cyngor cymuned leol am eu hymroddiad a'u cefnogaeth i'r Eisteddfod.