Carchar am beryglu diogelwch ar reilffordd yn Llanbrynmair

Y fan ben i'w waered wedi'r gwrthdrawiad ar groesffordd ger Llanbrynmair Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Roedd fan Daniel Bellis mewn gwrthdrawiad â thrên ar groesffordd ger Llanbrynmair

Mae dyn oedd yn gyrru fan oedd mewn gwrthdrawiad â thrên ym Mhowys wedi cael ei garcharu am bum mis a chael ei wahardd rhag gyrru am flwyddyn.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug plediodd Daniel Bellis, 35 oed o Groesoswallt, yn euog i gyhuddiad o beryglu diogelwch defnyddwyr y rheilffordd.

Roedd y fan mewn gwrthdrawiad â thrên ar Groesffordd Pikins rhwng Carno a Llanbrynmair ym mis Chwefror eleni.

Y trên oedd un Arriva Cymru oedd yn teithio o Birmingham i Aberystwyth.

Ben i waered

Cyfaddefodd Bellis nad oedd wedi defnyddio ffôn mynediad cyn ceisio croesi'r cledrau.

Image copyright other
Image caption Plediodd Daniel Bellis, 35 oed o Groesoswallt, yn euog

Doedd 'na ddim teithwyr ar y trên ar y pryd.

Clywodd y llys ei fod yn teithio ar gyflymder o 70 mya pan darodd blaen y fan a aeth ben i waered mewn ffos.

Roedd degau o filoedd o bunnoedd o ddifrod.

£20,000

Nid oedd modd defnyddio'r trên am wythnosau a chostiodd hyn £20,000 yn ychwanegol i'r cwmni.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry fod y diffynnydd wedi gamblo gyda bywydau pobl.

A dywedodd ei fod wedi cymryd i ystyriaeth sylwadau cyflogwr Bellis a ddywedodd ei fod yn weithiwr da.

Straeon perthnasol