Cocos: Pump wedi eu dal

  • Cyhoeddwyd
cocos
Disgrifiad o’r llun,
Asiantaeth: 'Mae casglu anghyfreithlon yn peryglu bywoliaeth casglwyr trwyddedig'

Gallai pump o bobl wynebu achos llys wedi i swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd eu dal yn casglu cocos yn anghyfreithlon.

Roedd hyn yng Nghilfach Tywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r pump yn eu hugeiniau ac o ardal Llanelli yn gasglwyr cocos profiadol a chanddyn nhw drwyddedau ar gyfer rhannau eraill o Gymru.

Ond nid oes ganddyn nhw drwydded ar gyfer Cilfach Tywyn.

'Peryglu'

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Mae casglu anghyfreithlon yn peryglu bywoliaeth casglwyr trwyddedig ac yn gallu bod yn beryglus i rai sydd ddim yn gyfarwydd â'r llanw."

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am gasglu anghyfreithlon fe ddylai gysylltu â'r heddlu ar 101.