Pryder am amddiffynfeydd llifogydd Yr Wyddgrug
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr tre yn Yr Wyddgrug am gwrdd â swyddogion oherwydd pryder am waith ar amddiffynfeydd llifogydd.
Dywed Cyngor Tre' Yr Wyddgrug eu bod yn awyddus i rwystro llifogydd yn ardal Cae Bracty.
Mae'r ardal wedi diodde' o lifogydd ddwywaith o fewn cyfnod o dair blynedd.
Dywed Dŵr Cymru mai Cyngor Sir Y Fflint sy'n gyfrifol am y gwaith.
Yn ôl y cyngor sir maen nhw'n bwriadu gwneud gwelliannau y flwyddyn nesaf.
Bu galw am weithredu ar ôl y llifogydd cyntaf yn 2009.
Cynlluniau
Nawr mae'r llifogydd wnaeth daro'r canolbarth yr wythnos ddiwetha', wedi codi ofn unwaith eto ar bobl Yr Wyddgrug am effaith llifogydd posib.
Cafodd Yr Wyddgrug ei daro gan lifogydd ym mis Ebrill eleni.
Mae yna waith o wella amddiffynfeydd wedi ei wneud ar ôl 2000 pan wnaeth yr Afon Alun orlifo.
Dywedodd Neal Cockerton o Gyngor Sir Y Fflint fod peirianwyr wedi eu comisiynu i ddatblygu amddiffynfeydd y Wyddgrug ymhellach.
Ychwanegodd fod yna gynlluniau dan sylw ond byddai angen caniatâd cynllunio ac asesiad amgylcheddol cyn cychwyn ar y gwaith.
Mae'n annhebyg y bydd y gwaith yn dechrau cyn gwanwyn 2013 a byddai'n cymryd wyth mis i'w gwblhau.