Ceisio lleihau colli aelodau o'r corff

  • Cyhoeddwyd
TraedFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,
Mae dros 300 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru yn wynebu colli aelod o'r corff oherwydd diabetes

Mae elusen wedi dechrau ymgyrch i geisio lleihau nifer y bobl sy'n colli aelodau o'r corff oherwydd clefyd siwgr.

Dywed Diabetes UK fod o leiaf 330 o bobl bob blwyddyn yn cael llawdriniaeth i dynnu aelodau yn uniongyrchol oherwydd y clefyd.

Ond ychwanegodd yr elusen bod modd osgoi 80% o'r llawdriniaethau yma.

Mae'r sefydliad am i feddygon fod yn fwy gwyliadwrus, ac am weld mwy o addysg arbenigol i staff ysbytai.

Yn ôl yr elusen, mae'r rhai sydd â diabetes 20 gwaith yn fwy tebygol o golli aelod o'r corff.

Ond er gwaetha'r risg, nid oes archwiliadu arbenigol o draed yn digwydd yn rheolaidd.

'Darlun bratiog'

Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen, Dai Williams: "Mae'r ymchwil diweddaraf yn dangos bod rhwng 78% ac 84% o bobl gyda diabetes yn derbyn archwiliad traed blynyddol, ond mae'r data hefyd yn awgrymu bod y darlun yng Nghymru yn fratiog.

"Mewn rhai meddygfeydd teulu mae bron pawb sydd â diabetes yn cael prawf traed blynyddol, ond mew eraill mae llai na hanner yn cael prawf."

Dywedodd hefyd fod y darlun mewn ysbytai yn waeth. Yn ôl yr elusen, mae bron hanner y bobl sy'n mynd i'r ysbyty gyda diabetes yn dioddef o gymhlethdodau oherwydd clefyd traed.

Er hynny dim ond 10% sy'n derbyn prawf traed o fewn 24 awr i fynd i'r ysbyty.

"Mae o leiaf 19% o gleifion ysbyty gyda diabetes, ond mae hyfforddiant i nyrsys am ofal traed sylfaenol yn fratiog neu'n absennol," medd Mr Williams.

Addysg

"Mae angen dirfawr am wella'r addysg i staff wardiau am wyliadwraeth traed diabetig, ac mae'n rhaid i bobl sydd ag wlser traed gael mynediad at yr ystod eang o wasanaethau arbenigol mwen ysbyty."

Dywedodd yr elusen eu bod yn cyhoeddi cynllun deg cam i helpu cleifion i ddeall problemau posib cyn bod hynny'n troi'n argyfwng meddygol.

Ychwanegodd Diabetes UK mai'r ffactor pwysicaf wrth geisio atal difrod i'r nerfau sy'n arwain at golli aelodau yw rheolaeth dda o'r siwgr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol