Pentref yn gwrthwynebu 54 o dai
- Cyhoeddwyd

Mae cais i godi 54 o dai mewn pentref yng Ngwynedd yn cael ei wrthwynebu gan y cyngor cymuned lleol, sy'n dweud y bydd yr ardal yn cael ei gor-ddatblygu.
Byddai'r tai yn cael eu codi yn agos i Ysgol Gynradd Y Felinheli.
Dywed y cyngor cymuned fod yr ysgol leol eisoes yn llawn, ac y byddai'n well codi cartrefi ar gyfer yr henoed.
Mae swyddogion cynllunio yn argymell y dylai cynghorwyr drosglwyddo'r penderfyniad i uwch-swyddog i gael ei gymeradwyo.
Yn ôl y cais, byddai'r tai yn amrywio o dai pedwar llofft i fflatiau dau lofft fforddiadwy.
Bydd 12 yn unedau fforddiadwy a fydd yn cael eu trosglwyddo i gymdeithas tai.
Pryderon
Mae'r cyngor cymuned hefyd yn gwrthwynebu gan eu bod yn honni nad yw cymysgedd o brinder tir agored a chymysgedd amhriodol o dai yn briodol, "a bod angen cartrefi ar gyfer henoed a chartrefi cymunedol yn lle."
Mae pryderon hefyd am gynllun y tai dau lawr, peryglon ffordd ger yr ysgol a mynediad i lwybr cerdded.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor cymuned: "Mae'r ysgol yn llawn a does dim angen datblygu'r safle ar hyn o bryd."
Ond dywed uned drafnidiaeth y cyngor sir bod yr asesiad trafnidiaeth yn "foddhaol".
Ond "oherwydd pryderon lleol mewn perthynas â chyflymder cerbydau sy'n pasio'r safle, mae'r ymgeisydd yn fodlon cyflwyno mesurau ychwanegol ar ffurf twmpathau croesi a marciau ar y ffordd i bwysleisio'r uchafswm cyflymder o 30 m.y.a."
Mae'r safle wedi ei ddynodi ar gyfer cartrefi yng Nghynllun Datblygu Unedol Lleol y sir.
Arweiniodd ymgynghoriad lleol at 16 o lythyrau gan bobl leol oedd yn mynegi pryderon gan gynnwys gor-ddatblygu'r safle, yr angen am groesfan i gerddwyr a rhwydwaith ffyrdd sydd eisoes "yn ddiffygiol".
Bydd y cais yn mynd gerbron cynghorwyr ddydd Llun gydag argymhelliad i ddirprwyo'r penderfyniad i uwch-reolwr cynllunio.