Cymru dan-20 6-30 Seland Newydd dan-20

  • Cyhoeddwyd
Cais Baby BlacksFfynhonnell y llun, IRB
Disgrifiad o’r llun,
Sgoriodd Jimmy Tupou gais cyntaf Seland Newydd yn dilyn sgrym ar linell gais Cymru

Cymru dan-20 6-30 Seland Newydd dan-20

Er gwaethaf ymdrech arwrol yn Cape Town, mae tîm rygbi dan-20 Cymru wedi colli yn rownd gynderfynol Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd i Seland Newydd.

Yn gynharach yn y gystadleuaeth, Cymru oedd y tîm cyntaf erioed yn hanes y gystadleuaeth i guro Seland Newydd o 9-3.

Ar ddechrau'r ail gêm rhwng y ddau, Cymru ddechreuodd orau unwaith eto gyda dwy gic gosb gan Tom Prydie yn rhoi mantais o 6-0 i'r crysau cochion.

Ond yna daeth y Crysau Duon yn ôl gyda gôl adlam a chic gosb gan Ihaia West yn unioni'r sgôr cyn i Jimmy Tupou sgorio cais yn eiliadau ola'r hanner cyntaf.

Gyda throsiad West roedd hi'n 13-6 ar yr egwyl felly.

Ond dangosodd Seland Newydd eu cryfder yn fuan yn yr ail hanner, ac yn dilyn symudiad hyd y cae fe groesodd Jason Emery am gais arall yn y gornel, ac fe lwyddodd West unwaith eto gyda'i gic i'w gwneud hi'n 20-6.

Fe groesodd Jordan Taufua am drydydd cais Seland Newydd cyn i Ofa Tu'ungafasi ychwanegu pedwerydd, ac er na throswyd yr un o'r ddau, roedd y dasg wedyn yn ormod i Gymru.

Fe fyddan nhw nawr yn wynebu naill ai De Affrica neu Ariannin yn y gêm i benderfynu'r trydydd safle.