Gweithwyr Ford: Streic 24 awr ym Mhen-y-bont ar Ogwr

  • Cyhoeddwyd
Logo FordFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Roedd streic sylweddol diwethaf y cwmni ym 1988

Mae aelodau o Undeb Unite yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cymryd rhan mewn streic 24 awr o 6am ddydd Llun.

Maen nhw'n gwrthwynebu penderfyniad y cwmni i gau eu cynllun pensiwn i bobl sy'n dechrau gweithio yno ac i newid eu cyflogau.

Fe fydd na streiciau hefyd ar bump o safleoedd Ford yn Lloegr, yn Dagenham yn Essex, Halewood ar Lannau Mersi a Southampton.

Mae Ford yn dadlau nad ydi mwyafrif staff y cwmni'n rhan o'r anghydfod ac yn dweud eu bod yn barod i barhau i drafod ag Unite.

Yn ôl Unite mae staff "yn gandryll" am y cynllun i gau'r system pensiwn yn seiliedig ar y cyflog olaf i ben i ddechreuwyr newydd ac i leihau'r graddfeydd cyflog o 2013.

'Dwy haen'

Mae Unite yn cynrychioli tua 1,200 o weithwyr yn y cwmni.

Dywed yr undeb fod 67% o staff wedi pleidleisio o blaid gweithredu'n ddiwydiannol ym mis Mai.

"Fydd ein haelodau ddim yn caniatáu i Ford greu system dwy haen i weithwyr o ran cyflogau a phensiynau," meddai swyddog cenedlaethol Unite, Roger Maddison.

"Hyd yma, mae Ford wedi methu gwneud unrhyw ymdrechion i ddatrys yr anghydfod.

"Rydym yn gwrthwynebu'n ffyrnig y penderfyniad i ddod â'r system pensiwn yn seiliedig ar y cyflog olaf i ben i ddechreuwyr newydd gan ein bod yn credu y bydd Ford yn y pendraw yn ceisio cau'r system gyfan."

Dydi'r anghydfod ddim yn ymwneud â gweithwyr ar y llinell cynhyrchu ond yn hytrach y gweithwyr yn yr ochr weinyddol.

Mae Unite yn dweud y gallai'r streic gael effaith ar gynhyrchu.

Yn ôl llefarydd ar ran Ford, mae'r mater yn codi oherwydd anghydweld rhwng y cwmni a charfan o'r gweithwyr.

"Rydym yn parhau i fod eisiau ac ar gael i drafod gyda'r undeb sy'n cynrychioli'r gweithwyr," ychwanegodd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol