Caerdydd i wynebu Huddersfield yn eu gêm gyntaf

Stadiwm Y Dinas Caerdydd
Image caption Fe fydd tîm Caerdydd yn chwarae gartref yn eu gêm gyntaf o'r tymor newydd

Mae trefn gemau Y Bencampwriaeth ar gyfer y tymor nesa' wedi cael eu rhyddhau.

Fe fydd Caerdydd yn cychwyn gyda gêm gartref yn erbyn Huddersfield ar Awst 18 gan wisgo eu crysau coch newydd am y tro cyntaf.

Bydd y tîm wedyn yn teithio i Brighton a Bryste ar gyfer y ddwy gêm oddi-cartref cyntaf.

Mae'r tîm yn mynd i fod yn chwarae gartref dros Ŵyl San Steffan, yn erbyn Crystal Palace ac eto yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Ragfyr 29 yn erbyn Millwall cyn teithio i Birmingham ar Ionawr 1.

Fe fydd eu gêm olaf ar Fai 4 oddi cartref yn erbyn Hull.

Fe wnaeth Caerdydd orffen yn chweched yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf cyn colli i West Ham yn rown gyn-derfynol y gemau ail gyfle.

Gemau Caerdydd

Awst 18 Huddersfield

Awst 21 Brighton and Hove Albion

Awst 25 Bristol City

Medi 1 Wolverhampton Wanderers

Medi 15 Leeds

Medi 18 Millwall

Medi 22 Crystal Palace

Medi 29 Blackpool

Hydref 2 Birmingham

Hydref 6 Ipswich

Hydref 20 Nottingham Forest

Hydref 23 Watford

Hydref 27 Burnley

Tachwedd 3 Bolton

Tachwedd 6 Charlton Athletic

Tachwedd 10 Hull

Tachwedd 17 Middlesbrough

Tachwedd 24 Barnsley

Tachwedd 27 Derby

Rhagfyr 1 Sheffield Wednesday

Rhagfyr 8 Blackburn Rovers

Rhagfyr 15 Peterborough

Rhagfyr 22 Caerlyr

Rhagfyr 26 Crystal Palace

Rhagfyr 29 Millwall

Ionawr 1 Birmingham

Ionawr 12 Ipswich

Ionawr 19 Blackpool

Ionawr 26 Caerlŷr

Chwefror 2 Leeds United

Chwefror 9 Huddersfield

Chwefror 16 Bristol City

Chwefror 19 Brighton and Hove Albion

Chwefror 23 Wolverhampton Wanderers

Mawrth 2 Middlesbrough

Mawrth 5 Derby

Mawrth 9 Barnsley

Mawrth 16 Sheffield Wednesday

Mawrth 30 Peterborough

Ebrill 1 Blackburn Rovers

Ebrill 6 Watford

Ebrill 13 Nottingham Forest

Ebrill 16 Charlton

Ebrill 20 Burnley

Ebrill 27 Bolton

Mai 4 Hull

Gallai'r dyddiadau newid oherwydd gofynion teledu.