Tân: Pryder am silindrau nwy i drigolion yn Wrecsam

Mae trigolion sy'n byw ger modurdy yn Wrecsam wedi gorfod gadael dros dro oherwydd pryder am silindrau nwy yno.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi eu galw i'r modurdy ar Ffordd Bryn Estyn yn y dref i daclo tân.

Cafodd dwy injan dân eu hanfon i ddiffodd y fflamau am 6.47am ddydd Llun lle mae 'na silindrau nwy oxy-asetylen.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod trigolion sy'n byw gerllaw ond ddim yn agos iawn at y modurdy yn cael eu hysbysu i aros yn eu tai.

Cafodd yr heddlu eu galw i helpu'r diffoddwyr tân i symud y rhai o'r tai cyfagos.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.