Estyn: Llythrennedd yn parhau i achosi pryder

Plant mewn dosbarth Image copyright bbc
Image caption Mae merched yn perfformio gryn dipyn yn well na bechgyn ar y lefelau disgwyliedig

Mae safonau siarad plant 12-14 oed yn uwch na'u gallu i ddarllen ag ysgrifennu yn ôl adroddiad newydd gan y corff arolygu ysgol Estyn.

Dydd Mercher cyhoeddodd Estyn, y cyntaf o gyfres o adroddiadau sy'n edrych ar safonau a darpariaeth ar gyfer llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3.

Yn ôl yr adroddiad, ar holl lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, mae perfformiad mewn Saesneg yn is na'r pynciau craidd eraill, er bod Cymraeg mamiaith yn llawer uwch.

Mae Llywodraeth Cymru ac undeb addysg UCAC wedi rhoi croeso i argymhellion Estyn yn yr adroddiad, sydd wedi'i seilio ar ymchwil mewn 21 ysgol uwchradd yng Nghymru.

'Medrau llythrennedd'

Dywed yr adroddiad fod merched yn perfformio gryn dipyn yn well na bechgyn ar y lefelau disgwyliedig a'r lefelau uwch mewn Cymraeg a Saesneg.

Ychwanega'r adroddiad fod mwy o ysgolion uwchradd yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion ennill cymwysterau cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru.

Fodd bynnag, nid yw ennill y cymwysterau hyn yn golygu bod disgyblion o reidrwydd yn defnyddio'r medrau hyn yn gyson ar draws y cwricwlwm, yn ôl Estyn.

Dim ond lleiafrif o'r ysgolion oedd yn rhan o'r ymchwil sydd wedi cynnal archwiliad o fedrau llythrennedd disgyblion i weld a yw pynciau'n nodi ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu'r medrau hyn, yn ôl yr adroddiad.

Pan mae ysgolion wedi datblygu hyfforddiant ar strategaethau llythrennedd, mae cynlluniau gwaith pynciau'n fwy cyson wrth amlygu'r union fedrau llythrennedd y dylid eu haddysgu, yn ôl Estyn.

"Un o'r prif heriau sy'n wynebu addysg yng Nghymru heddiw yw cael gwared ar safonau llythrennedd gwael," meddai Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

"Mae gormod o ddisgyblion sydd â gafael gwan ar fedrau llythrennedd ac mae'n cael effaith ar ba mor dda y maen nhw'n ei wneud yn yr ysgol.

"Hyd yn oed pan fydd disgyblion yn gwneud yn dda mewn asesiadau allanol o'u Cymraeg neu'u Saesneg, nid yw medrau llythrennedd bob amser yn ddigon cryf iddyn nhw ddefnyddio'r medrau hyn yn llawn ac yn hyderus mewn meysydd pwnc eraill.

"Dylai ysgolion roi blaenoriaeth i olrhain a monitro hefyd i sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfleoedd priodol i gael y cymorth cywir i'w galluogi i wneud cynnydd ar draws yr holl gyfnodau allweddol."

'Monitro cynnydd disgyblion'

Yn yr adroddiad, mae nifer o argymhellion ar gyfer ysgolion, awdurdodau a Llywodraeth Cymru o fonitro ac olrhain effaith y strategaethau ar gyfer gwella llythrennedd i roi arweiniad a chymorth gwell ar gyfer athrawon i'w helpu i roi'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol ar waith a datblygu medrau llythrennedd ar draws y cwricwlwm.

"Cytunwn â'r alwad i roi sylw i lythrennedd ar draws y cwricwlwm, ac i beidio'i gyfyngu i bynciau megis Cymraeg a Saesneg," meddai Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC.

"Cytunwn hefyd â'r argymhellion sy'n ymwneud â monitro cynnydd disgyblion mewn modd cyson - bydd hynny'n caniatáu i athrawon adnabod unrhyw broblemau'n gynnar ac i roi cefnogaeth briodol i'r rheiny sydd ei hangen.

"Rydym yn arbennig o falch i weld cydnabyddiaeth yn yr adroddiad y bydd angen hyfforddiant pwrpasol ar athrawon er mwyn gweithredu'r argymhellion hyn - byddant o dan bwysau aruthrol i godi safonau llythrennedd, ac mi fydd angen cefnogaeth arnyn nhw i wneud hynny."

Dywed Llywodraeth Cymru fod eu Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol, gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar, yn amlinellu cynllun i godi safonau llythrennedd.

"Mae gennym ymrwymiad i wella llythrennedd yn ein hysgolion," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Mae sgiliau llythrennedd gwael nid yn unig yn effeithio llwyddiannau dysgwyr Cymraeg a Saesneg ond eu gallu i wneud cynnydd ar draws y cwricwlwm."

Dywedodd Angela Burns, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, fod yr adroddiad wedi "peri mwy o bryder" ynghylch diffyg llythrennedd mewn ysgolion.

"Mae'n debygol bod yr adroddiad yn dilysu tystiolaeth flaenorol Estyn bod gymaint â 40% o bobl ifanc sy'n dechrau addysg uwchradd methu â darllen yn iawn," meddai.

"Rydym am i'r Gweinidog Addysg dawelu ein meddyliau bod ei ymdrech diweddaraf i godi safonau llythrennedd yn cael ei gefnogi gan athrawon, rhieni a llywodraethwyr ac yn cael ei fonitro'n effeithiol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.