Tân: Cwest i farwolaeth menyw yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio wedi i fenyw 79 oed farw ar ôl tân mewn fflatiau i'r henoed yng Ngheredigion.
Nid oedd yr amgylchiadau'n amheus.
Er i Mary Hicks, 79 oed, gael ei hachub o'r fflat yn Llandysul bu farw.
Heddlu Dyfed-Powys a'r gwasanaeth tân sydd wedi bod yn ymchwilio.
Cafodd corff Mrs Hicks ei adnabod yn swyddogol gan yr heddlu ddydd Llun.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol