Cyhoeddi enw caiaciwr fu farw ym Metws-y-coed

Map o'r ardal

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw caiaciwr fu farw ger Betws-y-coed ddydd Sadwrn.

Y dyn oedd Barry Aldridge, 57 oed, o Helsby, Sir Caer.

Roedd yn athro ysgol gynradd yn Lerpwl.

Mae'r dirprwy grwner Kirit Champaneria wedi agor a gohirio'r cwest.

Boddi

Cafodd wybod mai achos darpariaethol y farwolaeth oedd boddi.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 3:31pm brynhawn Sadwrn a daethpwyd o hyd i'r corff yn Afon Conwy ger Gwesty'r Fairly Glen.

Adeg y ddamwain dywedodd Enid Youe o'r gwesty: "Mae'r ambiwlans, heddlu, gwasanaeth tân a thîm achub mynydd wedi bod yma am dros ddwy awr.

"Roedd yr afon yn dymhestlog iawn heddiw ac mae hi wedi bod yn wlyb iawn."