Car yn taro bachgen ar feic
- Published
Mae bachgen 13 oed wedi cael ei anafu'n ddifrifol yn dilyn damwain ffordd yng Nghaerdydd ddydd Llun.
Roedd y llanc ar ei feic pan darodd yn erbyn car Mercedes C270 lliw aur tua 4:45pm ar Heol Orllewinol y Bont-faen.
Cafodd ei gludo ar unwaith i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ble mae'n cael triniaeth ar anafiadau difrifol i'w ben.
Dywed yr heddlu fod y llanc yn gyrru ei feic o gyfeiriad Ffordd Highmead tuag at Heol Orllewinol y Bont-faen, a bod y gwrthdrawiad wedi digwydd yn syth wedi iddo gyrraedd y lôn honno.
Bu'n rhaid cau'r ffordd am gyfnod yn dilyn y digwyddiad.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu'r llanc ar y beic cyn y ddamwain, i gysylltu â nhw ar 101 neu fynd i'w gorsaf heddlu leol.