Galw am ddysgu sgiliau cymorth cyntaf i ddisgyblion
- Published
Mae deiseb wedi cael ei chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn dweud y dylid dysgu sgiliau cymorth cyntaf i bob disgybl mewn ysgolion uwchradd.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon am i sgiliau cynnal bywyd fod yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol - gan gynnwys y gallu i geisio adfywio person sydd wedi cael trawiad ar y galon.
Dywed y Sefydliad y byddai dysgu sgiliau o'r fath mewn ysgolion yn creu cenhedlaeth newydd o bobl gyda'r gallu i achub bywydau.
Mae ymgyrchwyr wedi casglu 4,000 o enwau ar eu deiseb ers mis Chwefror.
"Pe bai disgyblion yn derbyn yr hyfforddiant cywir mae ganddyn nhw'r un galluoedd ag oedolion i achub bywydau neu i rwystro anableddau," meddai Delyth Lloyd, rheolwr materion cyhoeddus Sefydliad y Galon Cymru.
Fe all sgiliau o'r fath fod yn "gymorth i gadw rhywun yn fyw tan fod help proffesiynol yn cyrraedd".
Dywedodd Ms Lloyd er nad yw sgiliau o'r fath yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol ar hyn o bryd fod rhai ysgolion yn eu dysgu.