Yr actor Victor Spinetti wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Victor Spinetti fel George ac Elizabeth Proud fel ei wraig
Disgrifiad o’r llun,
Ymddangosodd Victor Spinetti mewn amryw o gynyrchiadau llwyfan a ffilm

Mae'r actor, y cyfarwyddwr a'r comedïwr Cymreig Victor Spinetti wedi marw yn 82 oed.

Roedd wedi bod yn diodde' o ganser a bu farw mewn hosbis yn Nhrefynwy.

Fe ymddangosodd yn nhair ffilm gyntaf y Beatles.

Cafodd ei eni i dad oedd yn Gymro o dras Eidalaidd ac i fam o Gymru.

Roedd yn perfformio'n gyson ar lwyfannau'r West End yn Llundain ac yn ogystal gyda Chwmni'r Royal Shakespeare.

Ymddangosodd mewn dros 30 o ffilmiau gan gynnwys fersiwn sinema o waith Dylan Thomas, Under Milkwood, gydag Elizabeth Taylor a Richard Burton.

Cafodd Spinetti ei eni uwchben y siop sglodion yr oedd ei deulu yn ei redeg yng Nghwm, Glyn Ebwy.

Mynychodd Ysgol Trefynwy ac roedd ganddo ddyhead cynnar i fod yn athro.

Wedi troi at fyd y ddrama fe wnaeth astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd ei gynyrchiadau llwyfan cynnar yn cynnwys nifer o berfformiadau cofiadwy gyda Gweithdy Theatr Joan Littlewood, ac fe gafodd y cynhyrchiad Oh, What a Lovely War! ei throsglwyddo o'r West End i Broadway.

Beatles

Ffynhonnell y llun, Western Mail
Disgrifiad o’r llun,
Daeth i amlygrwydd wedi ei gydweithrediad gyda'r' Beatles yn y 1960au

O ganlyniad i'w berfformiad yn honno y gwnaeth y Beatles ofyn iddo ymddangos yn A Hard Day's Night (1964), y cyntaf o bum ffilm y band.

Mae 'na adroddiadau bod George Harrison wedi dweud wrth Spinetti bod rhaid iddo fod yn y ffilm am na fyddai ei fam yn mynd i'w gweld "oni bai eich bod chi ynddo".

Fe wnaeth ymddangos hefyd gyda'r band yn Help! (1965) ac yn y ffilm deledu Magical Mystery Tour (1967).

Gweithiodd hefyd gyda John Lennon i addasu llyfr Lennon, In His Own Write, i fod yn ddrama y bu'n ei chyfarwyddo yn y National Theatre.

Mae Syr Paul McCartney wedi ei ddisgrifio fel "dyn sy'n gallu gwneud i'r cymylai ddiflannu".

Enillodd wobr Tony am ei berfformiad ar Broadway yn Oh, What a Lovely War!, ac fe ymddangosodd gyda Jack Klugman pan deithiodd The Odd Couple i Lundain.

Roedd ei ffilmiau yn cynnwys serennu yn ffilm Zeffirelli's, The Taming of the Shrew, eto gyda Burton a Taylor.

Roedd hefyd yn The Return of the Pink Panther a The Krays yn 1990.

O ran ei yrfa teledu mae'n debyg y bydd yn cael ei gofio am leisio'r dihiryn Texas Pete yn fersiwn Saesneg o gyfres animeiddio S4C, SuperTed.

Hefyd gan y BBC