Ymchwiliad i dân yn Ysgol Gynradd Betws
- Published
image copyrightBBC/Guto Orwig
Mae ymchwiliad ar y gweill i "dân difrifol" ddinistriodd floc adran fabanod ysgol gynradd brynhawn Mawrth.
Chafodd neb ei anafu.
Bu raid i gannoedd o ddisgyblion a staff adael y safle.
Aeth tri chriw o ddiffoddwyr i Ysgol Gynradd Betws yn Llangeinor ger Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl galwad am 2:30pm.
'Sydyn'
Ar y pryd dywedodd y gwasanaeth tân y dylai pobl leol gadw drysau a ffenestri ar gau.
Nos Fawrth canmolodd y cyngor "ymateb sydyn" y staff a'r gwasanaethau brys.
Dywedodd llefarydd y byddai'r cyngor, yr heddlu a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio.
"Mae staff yr ysgol a swyddogion y cyngor yn trefnu cefnogaeth ar gyfer y plant sydd ei hangen."
Byddai'r ysgol, ar wahân i adnodd Flying Start, ar agor ddydd Mercher, meddai.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol