Cwest: Marwolaeth ddamweiniol
- Cyhoeddwyd
Roedd y cwest yng Nghaernarfon
Cafodd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ei chofnodi yn achos seiclwr 41 oed.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod car wedi taro Leigh Hills o Sutton yn Surrey pan oedd yn anymwybodol ar ffordd yn ne Gwynedd ym mis Gorffennaf.
Eisoes roedd gwrthdrawiad wedi bod rhyngddo a seiclwr arall ar yr A493 rhwng Pennal a Chwrt ychydig cyn hanner nos ar Orffennaf 27.
'Ddim yn glir'
Dywedodd y crwner Dewi Pritchard-Jones: "Roedd Mr Hills yn mynd adre o'r dafarn. Dyw hi ddim yn glir a oedd yn reidio neu'n gwthio ei feic.
"Yna mi oedd gwrthdrawiad rhwng y ddau seiclwr ac mewn ardal wledig mae hyn yn annhebyg iawn o ddigwydd."
Clywodd y cwest fod y ddau'n gwisgo dillad tywyll ac nad oedd goleuadau ar eu beiciau.