Man cymorth yng nghanol Abertawe yn helpu'r gwasanaeth ambiwlans
- Cyhoeddwyd

Mae man cymorth i bobl sy'n mwynhau noson allan yng nghanol dinas Abertawe wedi golygu 91 yn llai o alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans.
Cafodd man cymorth Dinas Iach Abertawe ei ddefnyddio 27 o weithiau ers Tachwedd.
Mae'r man cymorth yn gweithredu gyda chydweithrediad yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans yn Sgwâr y Castell ar nosweithiau prysur, gan gynnwys Gŵyl y Nadolig a gemau rygbi a phêl-droed.
Mae bron 400 wedi cael help, y rhan fwyaf ohonyn nhw oherwydd eu bod yn feddw.
72 o boteli
Dywedodd Fiona Hughes o Bartneriaeth Abertawe Fwy Diogel: "Rydyn ni wedi canolbwyntio ar yr amseroedd prysura ... wrth gwrs, rydyn ni am i bobl ddod i Abertawe a mwynhau diod ond rhaid iddyn nhw ymddwyn yn gyfrifol."
Mae'r man cymorth hefyd wedi cysylltu â 31 rhiant neu ffrind i gasglu perthnasau.
Hefyd mae'r tîm wedi bod yn rhan o gynllun atal yfed alcohol yn y sgwâr ac wedi mynd â 72 o boteli oddi wrth yfwyr.
'Hyder'
"Mae'r man cymorth wedi cyfrannu at hyder y cyhoedd o ran diogelwch ac wedi lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fawr iawn," meddai Mrs Hughes.
"O ganlyniad mae llai wedi eu cludo mewn ambiwlans i uned ddamweiniau ysbyty."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012