Comisiwn yn cyfeirio achos Tom Maynard yn ôl i'r Met

Tom Maynard Image copyright PA
Image caption Roedd dawn arbennig gan Tom Maynard yn ôl arbenigwyr

Fydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ddim yn cynnal ymchwiliad i farwolaeth y cricedwr o Gaerdydd Tom Maynard.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod ar reilffordd yn Llundain fore Llun.

Yn hytrach, penderfynodd y Comisiwn gyfeirio'r achos yn ôl i Heddlu'r Met yn Llundain.

Cafodd y cricedwr 23 oed ei daro gan un o drenau'r District Line ger Parc Wimbledon.

Mae 'na le i gredu ei fod yn ceisio dianc rhag swyddogion yr heddlu ychydig cyn iddo farw.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Met bod dyn o'r un disgrifiad wedi rhedeg i ffwrdd o gar oedd yn cael ei "yrru'n ddiamcan" yn fuan cyn i gorff y cricedwr gael ei ganfod.

Dim cysylltiad

Penderfynodd y Comisiwn gyfeirio'r mater yn ôl i'r Met oherwydd bod yr heddlu a oedd yn dilyn y dyn golli golwg ohonno.

"Yn ôl tystiolaeth yr heddlu, fe wnaeth plismyn weld y car yn cael ei yrru'n ddiamcan am 4.13am," meddai llefarydd ar ran y Comisiwn.

"Fe wnaeth y gyrrwr adael y car, ac fe wnaeth yr heddlu redeg ar ei ôl, ond methu a'i ddal.

"Doedd yna ddim cysylltiad wedyn.

"Mae'n ymddangos i'r dyn cael ei daro gan dren am 5.04am.

"Yn sgil yr amgylchiadau, mae'r Comisiwn wedi penderfynu cyfeirio'r achos yn ôl i Heddlu'r Met.

"Bydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain nawr yn paratoi adroddiad ar gyfer Swyddfa'r Crwner."

Dydi'r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus.

Bu Maynard yn chwarae i Forgannwg cyn gadael ar ddechrau 2011 i ymuno â Surrey.

Roedd wedi chwarae i Surrey yn eu gêm 20 pelawd ddydd Sul yn erbyn Caint, gan sgorio saith o rediadau wrth i Surrey golli.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.