A all Simon Weston ei wahardd rhag bod yn Gomisiynydd?

  • Cyhoeddwyd
Simon WestonFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Mae Simon Weston wedi son iddo gael ei ddal mewn car wedi ei ddwyn pan yn 14 oed.

Mae yna amheuon a all y cyn filwr Simon Weston sefyll mewn etholiad ar gyfer swydd i fod yn un o gomisiynwyr yr heddlu.

Yn 14 oed cafodd Mr Weston ei ddal a'i ddyfarnu'n euog o deithio mewn car oedd wedi ei ddwyn.

Mae'r gyfraith sy'n ymwneud ag ethol comisiynwyr yn gwahardd ymgeiswyr sydd wedi eu cyhuddo o droseddau a allai olygu cyfnod o garchar.

Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May nad oedd y gyfraith oedd yn ymdrin â chefndir troseddol comisiynwyr yr heddlu wedi ei fwriadu ar gyfer ymgeiswyr fel Mr Weston.

Mae Mr Weston yn dweud ei fod am sefyll fel ymgeisydd annibynnol ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu De Cymru.

Dydd Mawrth dywedodd Mrs May nad bwriad y gyfraith oedd gwahardd rhywun oedd â record droseddol erbyn eu bod yn 16 oed.

Dim cyfrinach

Cafodd Mr Weston ei anafu'n ddifrifol ystod Rhyfel Y Falklands pan oedd ar fwrdd llong y Sir Galahad.

Dyw record Mr Weston ddim yn gyfrinach.

Yn y gorffennol mae'r cyn-filwr wedi son fod ganddo gywilydd am ei ddirwy - a sut i hyn ddylanwadu ar ei benderfyniad i ymuno'r â'r Gwarchodlu Cymreig.

Yn ôl y Ddeddf Cyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 byddai ddim yn rhaid i'r ymgeisydd fod wedi cael ei garcharu er mwyn cael ei wahardd - ddim ond wedi ei gael yn euog o'r drosedd lle'r oedd posibilrwydd y byddai'n cael ei garcharu.

Mae Mrs May wedi dweud y byddai'n dda cael mwy o ymgeiswyr annibynnol fel Mr Weston.

Cyhoeddodd Mr Weston, sy'n 50 oed, ei fwriad i sefyll ym mis Chwefror.

Bydd yr etholiadau ar Dachwedd 15 yn creu 41 o Gomisiynwyr yng Nghymru a Lloegr.