Honiadau yn erbyn cyn-bennaeth Awema

  • Cyhoeddwyd
Naz MalikFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae Naz Malik yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn

Clywodd tribiwnlys cyflogaeth honiadau fod cyn-bennaeth elusen lleiafrifoedd ethnig (Awema) yn berson oedd yn "rheoli" sefyllfaoedd drwy godi braw.

Mae Naz Malik yn wynebu cyhuddiadau o wahaniaethu rhywiol ac erledigaeth gan berson oedd yn arfer cael ei chyflogi gan Awema.

Cafodd Sylwia Bobrowska, swyddog cyllid, ei diswyddo fis Hydref y llynedd.

Fe wnaeth yr elusen roi'r gorau i'w dyletswyddau yn gynharach eleni gan wynebu cyhuddiadau o gamreoli.

Hefyd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi eu bod yn dod a'u nawdd i ben.

Clywodd y tribiwnlys yng Nghaerdydd gan gyn swyddog datblygu gydag Awema, Saskia Hamer, oedd yn cyhuddo Mr Malik o "reoli drwy godi braw" a'i bod yn cael ei hatgoffa o lyfrau Animal Farm a 1984 gan George Orwell.

Arian cyhoeddus

Dywedodd Ms Hamer fod yna "groeso i ffrogiau a sgertiau byr" fel gwisg i fenywod yn y swyddfa.

Mae Ms Bobrowska yn honni fod Mr Malik yn ddyn oedd yn "ymddwyn gyda rhagfarn rywiol ac euog o erledigaeth".

Mae o'n gwadu'r honiadau yn ei erbyn.

Bydd Ms Bobrowska yn rhoi tystiolaeth ddydd Mercher.

Fe wnaeth yr heddlu gynnal ymchwiliad i'r modd y gwnaeth yr elusen wario £8.4 miliwn o arian cyhoeddus.

Dywedodd adroddiad wrth yr elusen ddefnyddio arian cyhoeddus i dalu tâl aelodaeth campfa ar gyfer staff (£2,120), tocynnau rygbi a chriced gwerth £800, a £110 ar gyfer dirwy parcio ar ran Mr Malik.

Hefyd nodwyd fod yna "wrthdrawiad buddiannau" oherwydd mai un o gyfarwyddwr yr elusen oedd yn atebol i Mr Malik oedd ei ferch, Tegwen.

Roedd yna "gynnydd sylweddol" yn ei chyflog o £20,469 i £50,052.

Fe wnaeth yr elusen ddiswyddo Mr Malik a'r cyfarwyddwr cyllid Saquib Zia.