Honiadau yn erbyn cyn-bennaeth Awema
- Cyhoeddwyd

Clywodd tribiwnlys cyflogaeth gan ddynes oedd yn arfer cael ei chyflogi gan elusen lleiafrifoedd ethnig (Awema) i'w chyn bennaeth ei phoeni yn rhywiol cyn iddi gael ei diswyddo.
Fe wnaeth Sylwia Bobrowska yr honiadau yn erbyn cyn brif weithredwr yr elusen Nas Malik.
Mae'n ei bod wedi gwneud sylwadau amhriodol mewn cyfarfod staff.
Dywedodd iddo edrych arni a dweud na fydda'i gallu cael perthynas gyda dyn yn Abertawe heb iddo ef wybod am hynny.
Yn ôl Ms Bobrowska roedd hi wedi ei brifo gan y digwyddiad.
'Amhriodol'
Fe wnaeth hi son wrth un o gyfarwyddwyr yr elusen, merch Mr Malik, Tegwen Malik, am adegau lle'r oedd hi'n teimlo fod ei ymddygiad yn amhriodol.
Roedd hi am gael ymddiheuriad.
Dywedodd wrth y tribiwnlys o fewn 10 munud i'r sgwrs roedd hi wedi ei hatal o'i swydd, ac yna o fewn diwrnodau wedi cael ei diswyddo.
Mae hi'n honni fod y broses wedi dangos fod yna gamwahaniaethu rhywiol.
Honnodd fod Mr Malik wedi gafael yn ei chardigan a dweud nad oedd angen iddi lapio ei hun ynddo.
Dywedodd na ddylai hynny ddigwydd o dan unrhyw amgylchiadau, yn enwedig lle gwaith.
Disgrifiodd un achlysur pan ofynnodd Mr Malik iddi a oedd hi'n edrych am fechgyn a thro arall pan iddi dderbyn blodau, iddo ofyn a oedd ganddi gariad dirgel.
Dywedodd Ms Bobrowska fod yna awyrgylch o ofn yn y swyddfa, ofn Nas a Tegwen Malik.
Mae Ms Bobrowska yn honni fod Mr Malik yn ddyn oedd yn "ymddwyn gyda rhagfarn rywiol ac euog o erledigaeth".
Gwadu
Mae o'n gwadu'r honiadau yn ei erbyn ac yn dweud fod Ms Bobrowska ac eraill wedi creu'r stori er mwyn cuddio eu gwendidau yn y gweithlu.
Roedd yr elusen, sydd wedi ei ddirwyn i ben, wedi derbyn £8.4 miliwn o arian cyhoeddus.
Fe wnaeth yr heddlu gynnal ymchwiliad i'r modd y gwnaeth yr elusen wario'r arian.
Dywedodd adroddiad fod yr elusen wedi defnyddio arian cyhoeddus i dalu tâl aelodaeth campfa ar gyfer staff (£2,120), tocynnau rygbi a chriced gwerth £800, a £110 ar gyfer dirwy parcio ar ran Mr Malik.
Hefyd nodwyd fod yna "wrthdrawiad buddiannau" oherwydd mai un o gyfarwyddwr yr elusen oedd yn atebol i Mr Malik oedd ei ferch, Tegwen.
Roedd yna "gynnydd sylweddol" yn ei chyflog o £20,469 i £50,052.
Fe wnaeth yr elusen ddiswyddo Mr Malik a'r cyfarwyddwr cyllid Saquib Zia.
Straeon perthnasol
- 28 Chwefror 2012
- 24 Chwefror 2012
- 22 Chwefror 2012
- 22 Chwefror 2012