Beiciwr modur wedi marw
- Published
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi damwain farwol fore Mercher.
Am 12.10pm roedd gwrthdrawiad rhwng y beic modur Honda a fan wen Ford ar y B4265 rhwng Ewenni a Sant-y-Brid ym Mro Morgannwg.
Bu farw'r gyrrwr yn y fan a'r lle.
Yn benodol, mae'r heddlu am siarad â dau seiclwr gynigiodd help ar y pryd.
Dylai unrhywunâgwybodaeth ffonio Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r De 01656 869332, 101, neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.