Tân mewn ysgol yn ddamweiniol
- Cyhoeddwyd

Damwain oedd achos tân mewn ysgol ger Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cynnal ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd yn Ysgol Gynradd Betws, Llangeinor.
Doedd dim difrod i adran fabanod na meithrin yr ysgol, ond cafodd yr adran i blant iau ei ddinistrio'n gyfan gwbl.
Fe wnaeth yr ysgol ailagor fore Mercher, ac eithrio adnoddau Flying Start, gyda disgyblion yn defnyddio'r adeiladau sy'n weddill.
Cafodd 219 o ddisgyblion eu symud i ddiogelwch wedi'r digwyddiad ddydd Mawrth.
Cafodd datganiad ei gyhoeddi gan y gwasanaeth tân brynhawn Mercher.
"Mae'r ymchwiliad i achos y tân yn Ysgol Gynradd Betws wedi cael ei gwblhau ac wedi canfod bod y tân yn un damweiniol," meddai Matt Jones.
"Canfuwyd mai gwyntyll ar fwrdd yn yr ysgol oedd wedi gorboethi ac wedi mynd ar dân."
Dim anafiadau
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.
Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi addo ystyried dod ag adeiladau dros dro i'r safle os fydd angen er mwyn cadw'r ysgol ar agor i bob disgybl.
Cafodd swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r safle am 2.30pm.
Roedd tri chriw yn taclo'r fflamau.
Cafodd trigolion sy'n byw ger yr ysgol sydd tua 6 milltir o ganol y dref, eu rhybuddio i aros tu mewn ac i gadw eu drysau a ffenestri ar gau.
Eglurodd dirprwy bennaeth yr ysgol, Liz Pearce - sydd wedi bod yno am 23 mlynedd - bod y plant a'r staff wedi colli popeth yn yr adeilad.
"Mae holl waith y plant, holl waith yr athrawon wedi mynd."
Eglurodd bod y plant a'r staff wedi gadael yr ysgol ar ôl clywed clychau'r larwm tân a hynny cyn i'r fflamau gydio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2012