Cyflog i feddygon sy'n streicio

  • Cyhoeddwyd
Meddyg teuluFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd llefarydd y byddai'r GIG yn gallu dal i fyny gydag unrhyw lawdriniaethau fyddai'n cael eu gohirio

Ni fydd meddygon ysbytai yng Nghymru sy'n gweithredu'n ddiwydiannol ddydd Iau yn colli cyflog oherwydd cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Gymdeithas Feddygol, y BMA.

Bydd meddygon yn derbyn cyflogau llawn os byddan nhw'n barod i gyfrannu'n llawn tuag at ofal brys ar ddiwrnod y streic.

Fe fydd rhaid iddyn nhw hefyd weithio unrhyw oriau a gollwyd oherwydd y streic o fewn y 12 wythnos canlynol.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi condemnio'r gweithredu diwydiannol dros bensiynau.

Pan bleidleisiodd 104,000 roedd y mwyafrif o blaid diwrnod o weithredu ar Fehefin 21.

Mae'r cytundeb ar gyflogau yn weithredol ymhob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd pensiynau meddygon yn fater wedi ei ddatganoli, a bod yr anghydfod rhwng y meddygon a Llywodraeth y DU.

"Ein prif ffocws fydd lleihau effaith unrhyw weithredu diwydiannol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yma.

"O dan gytundeb rhwng GIG Cymru a'r BMA (Cymru) bydd meddygon mewn ysbytai sy'n streicio ddim yn colli cyflog cyn belled â'u bod yn trin cleifion sydd angen triniaeth brys neu argyfwng, a'u bod hefyd yn gweithio unrhyw oriau a gollwyd, heb unrhyw gost ychwanegol, o fewn yr wythnosau i ddod.

"Bydd hyn yn golygu bod y GIG yn dal i fyny gydag unrhyw lawdriniaethau fydd yn cael eu gohirio ac unrhyw sesiynau i gleifion allanol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol