Gwefan Gymraeg newydd i ddeintyddion
- Cyhoeddwyd

Ugain mlynedd ar ôl ei sefydlu yn 1991, mae'r Gymdeithas Ddeintyddol yn lansio gwefan newydd ddydd Iau.
Yn ôl y gymdeithas mae'n wefan arloesol, sy'n torri tir newydd sbon mewn maes lle na fu fawr ddim lle i'r Gymraeg tan yn ddiweddar.
Mae hefyd yn manteisio ar y cyfle i hybu a hyrwyddo'r defnydd o'r iaith ym maes deintyddiaeth, medd y gymdeithas.
Bwriad y gymdeithas yw galluogi deintyddion Cymraeg eu hiaith i drafod materion proffesiynol ymysg ei gilydd yn yr iaith Gymraeg.
Nod arall y wefan yw galluogi deintyddion i gyfathrebu'n naturiol gyda'r cleifion yn eu mamiaith, a hefyd cael cyfle i gymdeithasu â'i gilydd yn anffurfiol drwy gyfrwng yr iaith.
Dywedodd llefarydd ar ran y gymdeithas: "Bydd gwefan y Gymdeithas Ddeintyddol yn cynnig cyfle i'r cyhoedd gael gwybodaeth ddeintyddol yn yr iaith Gymraeg, a gobeithiwn ddatblygu ac ehangu'r wybodaeth honno yn y dyfodol."
Gyda nawdd Adran Ôl-raddedig Prifysgol Cymru, Caerdydd, cyhoeddwyd y Geiriadur Deintyddiaeth yn 2005 ac mae'n cynnwys tua 5,500 o dermau deintyddol yn y Gymraeg.