Adroddiad yn feirniadol o'r heddlu

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Daw'r adroddiad newydd yn dilyn arolygiad gan ACEM yn 2010

Mae adroddiad newydd yn dweud fod pryder ynglŷn â gallu'r heddlu i adnabod y bobl sy'n fwyaf agored i niwed oherwydd ymddygiad gwrth gymdeithasol.

Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (ACEM) yn dweud ei fod yn bosib nad yw rhai dioddefwyr yn Ne Cymru, Gwent a Gogledd Cymru yn cael y cymorth ychwanegol maent yn eu hangen.

Yn ôl yr adroddiad mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflwyno system newydd yn ddiweddar sy'n eu galluogi i adnabod pobl sy'n agored i niwed sy'n ffonio'r heddlu.

Dywedodd pob un o'r lluoedd eu bod yn taclo ymddygiad gwrth gymdeithasol.

'Lleihau cyfleoedd'

Daw'r adroddiad - Cam i'r Cyfeiriad Iawn - yn dilyn arolygiad gan ACEM yn 2010 i ganfod y ffordd orau i luoedd heddlu'r Deyrnas Unedig i daclo ymddygiad gwrth gymdeithasol.

Dywed yr adroddiad fod Heddlu Dyfed-Powys wedi "cyflwyno gweithdrefn asesiad risg, ac wedi buddsoddi'n sylweddol i hyfforddi staff i wybod sut i ddefnyddio'r weithdrefn a bod hwn wedi galluogi'r llu i adnabod ac ymateb yn briodol i bobl oedd yn agored i niwed oedd yn cysylltu â nhw.

Ychwanegodd yr adroddiad: "Canfu ACEM nad oedd data ystyrlon o ran dioddefwyr sy'n agored i niwed a'r rheiny oedd wedi dioddef yn y gorffennol yn cael ei ddefnyddio yng nghyfarfodydd rheoli dyddiol y llu.

"Roedd hyn wedi lleihau'r cyfleoedd i reoli'n effeithiol y modd y mae'r llu yn taclo ymddygiad gwrth gymdeithasol.

Dywedodd yr adroddiad fod y tri llu arall wedi gwella rhywfaint o ran eu hymdrechion i daclo a deall ymddygiad gwrth gymdeithasol.

Ond yn ôl yr adroddiad doedd dim un ohonynt yn gallu adnabod yn rheolaidd nac yn gyson, y bobl "sydd fwyaf agored i niwed o ymddygiad gwrth gymdeithasol" oedd wedi cysylltu â nhw.

'Arloesol'

Ychwanegodd yr adroddiad ei fod yn bosib nad yw'r dioddefwyr "yn derbyn y cymorth maen nhw eu hangen".

Dywedodd Dirprwy Brig Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Pritchard, fod y llu wedi buddsoddi mewn systemau Technoleg Gwybodaeth newydd i fapio llefydd lle'r oedd ymddygiad gwrth gymdeithasol yn digwydd yn aml.

Ychwanegodd; "Er hynny, rydym yn derbyn bod fwy o waith i'w wneud, yn enwedig yn yr ystafell reoli o ran adnabod dioddefwyr sy'n agored i niwed a'r rheiny sydd wedi dioddef o'r blaen ac rydym wedi bod yn ceisio taclo'r materion hyn.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Plismona Tiriogaethol Heddlu De Cymru, Julian Kirby, fod y llu wedi dechrau canolbwyntio ar ymddygiad gwrth gymdeithasol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'u bod yn defnyddio cronfa ddata "arloesol" i ganfod pobl oedd wedi dioddef o ymddygiad gwrth gymdeithasol yn y gorffenol.

Ychwanegodd fod adroddiad ACEM yn "giplun" o'r sefyllfa a bod y llu yn "delio'n gyflymach ac yn fwy effeithiol ag ymddygiad gwrth gymdeithasol" ers iddynt agor Canolfan Gwasanaeth i'r Cyhoedd newydd sy'n delio â phob galwad ffôn brys a phob galwad ffôn nad ydynt yn rhai brys.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Paul Symes o Heddlu Gwent, fod taclo ymddygiad gwrth gymdeithasol yn un o "brif flaenoriaethau'r llu", a'u bod wedi "gosod system rymus mewn lle i'n helpu asesu'r risg o bob digwyddiad ymddygiad gwrth gymdeithasol sy'n cael eu hadrodd inni" ers adroddiad ACEM.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Heddlu Dyfed-Powys am eu hymateb.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol