Meddygon yn cynnal streic

  • Cyhoeddwyd
Meddyg teuluFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r BMA yn gwrthwynebu newidiadau i'r cynllun pensiwn

Mae meddygon ar hyd a lled Cymru a gweddill Prydain yn gweithredu'n ddiwydiannol am y tro cyntaf ers bron 40 mlynedd.

Streicio y mae aelodau Cymdeithas Feddygol y BMA oherwydd newidiadau i gynllun pensiwn.

Mae miloedd o lawdriniaethau arferol wedi'u gohirio mewn ysbytai ond fe fydd triniaethau brys yn parhau.

Dywedodd saith o fyrddau iechyd Cymru y byddai cleifion ysbyty yn cael triniaeth yn ôl yr arfer.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi beirniadu'r streic.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd pensiynau meddygon yn fater wedi ei ddatganoli, a bod yr anghydfod rhwng y meddygon a Llywodraeth y DU.

Yn ôl y BMA, mae yna 475 o feddygfeydd teuluol yng Nghymru.

Mwyafrif

Dyw hi ddim yn glir faint o'r rhain fydd yn cymryd rhan yn y streic.

Mae disgwyl i'r rhan fwyaf o feddygon fynd i'w gwaith - ond iddynt ganolbwyntio ar achosion brys yn unig.

Mae rhai meddygfeydd wedi penderfynu peidio â chefnogi'r streic.

Pan bleidleisiodd 104,000 o aelodau'r BMA roedd y mwyafrif o blaid diwrnod o weithredu ar Fehefin 21.

Cytundeb

Ni fydd meddygon ysbytai yng Nghymru sy'n gweithredu'n ddiwydiannol yn colli cyflog oherwydd cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r BMA.

Bydd meddygon yn derbyn cyflogau llawn os byddan nhw'n barod i gyfrannu'n llawn tuag at ofal brys ar ddiwrnod y streic.

Fe fydd rhaid iddyn nhw hefyd weithio unrhyw oriau a gollwyd oherwydd y streic o fewn y 12 wythnos ganlynol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol