Adnabod corff oedd mewn llyn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi adnabod corff dyn gafodd ei ddarganfod mewn llyn bach ger Llyn Efyrnwy ym mis Mai.

Cafwyd hyd i gorff y dyn tua 60 oed ar Fai 23 yn rhaeadr Rhiwargor.

Roedd yr heddlu wedi dweud nad oedd y farwolaeth yn amheus.

Nid ydyn nhw wedi cyhoeddi enw'r dyn am eu bod yn ceisio darganfod ei berthynas agosaf.

Tri o bobl

Cadarnhaodd profion DNA bwy oedd y dyn wedi i dri o bobl gysylltu â'r heddlu a chynnig yr un enw.

Cafodd y dyn ei adnabod wedi apêl ryngwladol yr heddlu, gan gynnwys yn Ewrop a Hemisffer y De.

"Roedd y dyn yn byw ym Mhowys cyn iddo farw ond ni fu unrhyw adroddiad ynglŷn â phryder am ei ddiogelwch," meddai'r Ditectif Arolygydd Diane Davies.

Anarferol

Y gred yw bod corff y dyn wedi bod yn y llyn rhwng wythnos a mis cyn iddo gael ei ddarganfod.

Roedd ditectifs wedi dweud eu bod yn gobeithio y byddai watsh anarferol y dyn yn eu helpu.

Roedd ei watsh ag wyneb du gyda symbol rhedynen arian Seland Newydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol