Treth gyngor: Y tlotaf i golli £74 y flwyddyn
- Cyhoeddwyd

Bydd pobl ar incwm isel yng Nghymru'n colli £74 y flwyddyn oherwydd newidiadau i fudd-dâl treth y cyngor, yn ôl adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn datganoli'r cyfrifoldeb am y budd-dâl ac mae'r llywodraeth honno wedi torri 10% o'r gyllideb sy'n helpu pobl dalu'r dreth.
Dywedodd rhai y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi llenwi'r bwlch ariannol o fwy na £20 miliwn ond mae'r Gweinidog Llywodraeth leol, Carl Sargeant, wedi dweud na all fforddio gwneud hynny.
328,000
Mae tua 328,000 o deuluoedd yn derbyn budd-dâl treth y cyngor yng Nghymru.
Mae ymchwil y sefydliad, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, wedi dweud y bydd llai o fudd-dâl yn sicr o effeithio ar y rheiny â'r incwm lleiaf.
Byddai gwarchod y rheiny sy'n derbyn y budd-dâl rhag y toriadau wedi golygu codi'r dreth gyngor 2.1% neu dorri gwariant Llywodraeth Cymru 0.2% yn ystod cyfnod pan mae pwysau mawr ar gyllidebau.
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu gweinidogion Llywodraeth Cymru am dilyn Llywodraeth Yr Alban darodd gytundeb â chynghorau lleol er mwyn llenwi'r bwlch ariannol.
Ebrill 2013
Dywedodd gweinidogion nad oedd arian ar gael ar gyfer cynllun o'r fath.
Bydd y newidiadau i'r budd-dâl yn cael eu cyflwyno ym mis Ebrill 2013 pan fydd cymorth ar gyfer treth y cyngor yn cael ei "leoli".
Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol wedi mynegi safbwynt Llywodraeth Cymru wrth yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, mewn cyfarfod yr wythnos hon.
Dywedodd: "Mae'r adroddiad wedi tynnu sylw at yr heriau mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu o ran creu system newydd yn lle system fudd-dâl treth y cyngor erbyn Ebrill 2013.
'Pryderon'
"Mae'r adroddiad yn cadarnhau beth rydym wedi bod yn ei ddweud wrth Lywodraeth y DU sef ein pryderon mawr am effaith toriadau budd-dâl ar rai o aelodau mwya agored i niwed ein cymdeithas."
Eisoes mae wedi dweud y bydd y cost dileu'r system fudd-dâl yn gyfwerth â 650 yn llai o ysgolion cynradd neu gyflogi 600 yn llai o nyrsys.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau am eu hymateb.
Straeon perthnasol
- 13 Mawrth 2012
- 28 Chwefror 2012
- 5 Ionawr 2012
- 22 Hydref 2011
- 5 Gorffennaf 2011