Awstralia yn curo Cymru yn Sydney
- Cyhoeddwyd

Awstralia enillodd y drydedd gêm brawf yn erbyn Cymru yn Sydney ddydd Sadwrn.
Fel yr wythnos ddiwethaf yn Melbourne cig gosb ym munudau ola'r gêm sicrhaodd y fuddugoliaeth.
Manteisiodd maswr Awstralia, Berrick Barnes, ar gamgymeriadau'r Cymry wrth gicio 15 o bwyntiau.
Sgoriodd Ryan Jones gais i roi Cymru ar y blaen o 16-12 yn yr ail hanner wedi i Mike Phillips hollti'r amddiffyn.
Cyfleoedd
Ond fe darodd Awstralia yn ôl wrth i Rob Home ddeifio drosodd.
Er mai Awstralia oedd yn mwynhau'r rhan fwya o feddiant fe ddaeth cyfleoedd i Gymru ond methu â manteisio oedd yr hanes.
Mae'r canlyniad yn golygu mai Awstralia sydd wedi ennill y gyfres o 3-0.
Dywedodd prif hyfforddwr Awstralia, Robbie Deans, y byddai Cymru'n "barod" am Awstralia cyn eu gêm nesa yn Stadiwm y Mileniwm ar Ragfyr 1.
"Chwarae teg i'n chwarewyr ni - fe ddangoson nhw ddisgyblaeth yn ystod munudau allweddol y gêm.
"Ond rhaid cyfadde bod Cymru'n dîm o'r radd flaena sy'n gallu chwarae, yn cadw i fynd am 80 munud ac yn bygwth ym mhob man."
Byddai'r siomedigaeth yn "tanio'r Cymry" cyn y gêm nesa, meddai.
Dywedodd hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley: "Mae wedi bod yn gyfres ffantastig ac fe fyddwn ni'n gwella.
"Ond rydyn ni wedi colli o 3-0 a does dim modd osgoi hynny."
Siomedig
Roedd y 10 munud ola'n siomedig, meddai.
"Am ryw reswm, ni lwyddon ni i fanteisio ar ein cyfleon ... rhaid i ni ddysgu ein gwersi."
Dyw Cymru ddim wedi ennill yn Awstralia ers 1969.
Roedd gormod o gamgymeriadau, y lein yn gwegian, yn enwedig yn yr hanner cynta.
Roedd sawl chwaraewr bron yn eu dagrau ar ddiwedd y gêm. Mor agos ond mor bell.
Awstralia: Kurtley Beale (Melbourne Rebels); Adam Ashley-Cooper (NSW), Rob Horne (NSW), Pat McCabe (ACT), Digby Ioane (Queensland); Berrick Barnes (NSW), Will Genia (Queensland); Benn Robinson (NSW), Tatafu Polota-Nau (NSW), Sekope Kepu (NSW), Sitaleki Timani (NSW), Nathan Sharpe (Western Force), Scott Higginbotham (Queensland), David Pocock (Western Force, capten), Wycliff Palu (NSW).
Eilyddion: Stephen Moore (ACT), Ben Alexander (ACT), Rob Simmons (Queensland), Dave Dennis (NSW), Michael Hooper (ACT), N White (ACT), A Fainga'a (Queensland).
Cymru: Leigh Halfpenny (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Ashley Beck (Gweilch), George North (Scarlets); Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (Bayonne); Gethin Jenkins (Toulon), Matthew Rees (Scarlets), Adam Jones (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau) , Sam Warburton (Gleision, capten), Ryan Jones (Gweilch).
Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Justin Tipuric (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).
Dyfarnwr: Craig Joubert (De Affrica).
Straeon perthnasol
- 22 Mehefin 2012
- 16 Mehefin 2012
- 12 Mehefin 2012
- 9 Mehefin 2012