Un system ganolog o ran camerâu i'r gogledd?
- Cyhoeddwyd

Bydd prif weithredwyr y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn cwrdd ddydd Gwener i drafod sefydlu system camerâu cylch cyfyng ganolog ar draws y rhanbarth.
Bydd y chwech y cael clywed canlyniadau astudiaeth dichonolrwydd i'r cynllun, ond eisoes mae un cyngor wedi mynegi anfodlonrwydd gyda'r syniad.
Cychwynnodd yr adolygiad o'r camerâu - sy'n cael ei arwain gan Gyngor Conwy - dros flwyddyn yn ôl gyda chyfraniad o £805,000 gan Lywodraeth Cymru.
Ond mae Gerry Roberts, cydlynydd cynllun Crime-Link yn Wrecsam, wedi dweud y byddai sefydlu system o'r fath yn "drychineb".
'Amhrisiadwy'
Dywedodd bod saith o staff yn monitro 100 o gamerâu yn Wrecsam am 24 awr, a bod y camerâu yn chwarae rhan hanfodol wrth geisio taclo troseddu yn y dref.
"Fedrwch chi ddim tanbrisio gwerth CCTV mewn lle fel Wrecsam," medda.
"Mae gwybodaeth leol a phrofiad y tîm sy'n eu monitro yn amhrisiadwy.
"Byddai canoli'r system yn rhywle fel Conwy yn gwneud llawer o ddrwg gan na fyddai unrhyw wybodaeth leol."
Ond mynnodd Julian Sandham, rheolwr cynllun CCTV rhanbarthol sy'n gweithio gyda Chyngor Conwy, nad oedd cael un cynllun yn golygu o reidrwydd cael un adeilad yn unig.
Dim penderfyniad
Mewn datganiad eglurodd: "Mae camerâu cylch cyfyng yn chwarae rhan bwysig wrth ddelio gyda throseddu ac ymddygiad gwrth gymdeithasol, ac wrth sicrhau pobl bod Gogledd Cymru yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld.
"Mae'r cynllun CCTV rhanbarthol yn rhywbeth sy'n cael ei gynnal ar ran y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru gyda Chonwy yn arwain.
"Rydym wedi bod yn ystyried dichonolrwydd sefydlu un system fonitro ranbarthol ac os fydd hwn yn cael ei fabwysiadu byddai'n disodli'r chwe system ar wahân sy'n bodoli ar hyn o bryd.
"Pwrpas y syniad yw arbed arian ynghyd a gwelliannau eraill a chynaliadwyedd i'r dyfodol.
"Nid oes penderfyniad wedi ei wneud o ran sefydlu un sustem fonitro ranbarthol, nifer y canolfannau na'u lleoliadau."
Straeon perthnasol
- 23 Ebrill 2012
- 17 Mai 2012
- 1 Tachwedd 2011