Rhybudd arall am lifogydd mewn rhannau o Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cynghori pobl i baratoi am lifogydd gan y bydd glaw trwm yn parhau dros y penwythnos.
Mae'r rhagolygon yn sôn am law trwm yn y canolbarth a'r gogledd.
Gallai system dywydd symudodd i ogledd orllewin Lloegr yn gyntaf ddod â mwy o law trwm i ogledd ddwyrain Cymru.
Yn ôl y gwasanaeth tân, roedd 'na un achos o lifogydd dros nos, mewn gorsaf betrol yn Llandre ger Bow Street, Aberystwyth, tua 11pm.
Hon oedd yr ardal gafodd ei heffeithio gan lifogydd bythefnos yn ôl.
Ym Mhen Llŷn fore Gwener roedd llifogydd rhwng yr B4413 (Llanbedrog) a'r A497 Yr Ala (Pwllheli).
Dargyfeirio
Roedd y B4340 ar gau rhwng Southgate, Aberystwyth, a'r Gors am fod coeden fawr wedi cwympo.
Roedd traffig yn cael ei ddargyfeirio yn Southgate ac ar bont Trawsgoed.
Dywedodd yr asiantaeth fod chwech rhybudd llifogydd i fod yn barod mewn grym, yn nalgylch Dyfi (o gwmpas Afon Dyfi, o Ddinas Mawddwy a Llanbrynmair i'r aber, gan gynnwys Machynlleth); dalgylch Mawddach ac Wnion (ardaloedd o gwmpas Afon Mawddach ac Afon Wnion, o'r Friog i Ganllwyd a Rhydymain); dalgylch Dysynni, Gogledd Ceredigion,Tywi Uchaf (afonydd dalgylch Tywi Uchaf uwchlaw Llandeilo ac eithrio Brân yn Llanymddyfri),Teifi Uchaf (afonydd dalgylch Teifi Uchaf uwchlaw Llanybydder).
Roedd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Yvonne Evans, wedi dweud y byddai'n wlyb ac yn wyntog ddydd Gwener.
'Glaw trwm'
"Fe fydd gwyntoedd cryfion ar hyd Bae Ceredigion a glannau'r de.
"Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyflwyno rhybudd o law trwm yn y gogledd ac yng Ngheredigion a chan y bydd hi'n bwrw ar dir sydd eisoes yn wlyb iawn mae'n bosib y bydd llifogydd.
"Ddydd Sadwrn bydd hi'n sych i ddechrau gyda rhai cyfnodau braf a'r gwynt yn gostegu ychydig ond yna fe fydd hi'n gawodlyd yn y prynhawn ac erbyn y nos bydd glaw yn lledu o'r de.
"Bydd y tymheredd yn dal i fod yn is na'r hyn sydd i ddisgwyl am yr adeg hon o'r flwyddyn - ar ei ucha' tua phymtheg gradd selsiws, ac fe fydd hi'n wlyb ac yn wyntog ar brydiau ddydd Sul."
Dywedodd yr asiantaeth y dylai pobl gymryd gofal wrth yrru gan y gallai'r amgylchiadau fod yn anodd iawn.
Maen nhw'n cynghori pobl i gadw llygad ar adroddiadau tywydd ar y cyfryngau, ac i edrych ar eu gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf.
Gall pobl hefyd ffonio llinell llifogydd arbennig yr Asiantaeth ar 0845 988 1188.
Ymweliad
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan AS, wedi ymweld â rhannau o Geredigion lle oedd llifogydd bythefnos yn ôl.
Roedd yno ar wahoddiad yr Aelod Seneddol lleol Mark Williams, ac fe roddodd deyrnged i drigolion sydd wedi bod yn clirio'r annibendod.
Dywedodd Mrs Gillan: "Mae llifogydd bob tro yn brofiad trawmatig i unrhyw un sy'n gweld effaith ar eu cartref neu fusnes mewn modd mor ddinistriol.
'Dioddefaint'
"Alla i ddim dychmygu dioddefaint y bobl y bu'n rhaid eu hachub o'r dŵr ac sy'n wynebu gwaith clirio sylweddol.
"Roeddwn yn awyddus i ymweld â'r ardal i ddiolch i bawb oedd yn rhan o'r ymgyrch achub ac i weld y gwaith sy'n cael ei wneud i adfer y cymunedau dan sylw.
"Efallai y bydd yn cymryd peth amser, ond rwy'n hyderus y bydd y trigolion yn derbyn yr holl gefnogaeth angenrheidiol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012