Chwilio afon yn Aberhonddu am ddyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys wedi dweud bod yr oriau nesa'n dyngedfennol wrth iddyn nhw barhau i chwilio afon yng nghyffiniau Aberhonddu wedi i ddyn fynd ar goll.
Fe gawson nhw'r alwad tua 6am ddydd Gwener i chwilio am ddyn lleol 54 oed.
Y gred yw bod y dyn wedi syrthio i Afon Wysg ger Pont Llanfaes yn Aberhonddu yn gynnar fore Gwener.
Mae timau arbenigol yn chwilio'r afon o Aberhonddu i Dal-y-bont ar Wysg, pellter o ryw saith milltir.
'Cydlynu'
"Ar hyn o bryd mae'r gwasanaethau brys yn cydlynu'r ymgyrch achub wrth chwilio'r afon a'r ardal leol," meddai'r Arolygydd Eric Evans o Heddlu Dyfed Powys.
"Fel y gallwch ddychmygu, wedi'r glaw sylweddol mae'r afon yn llifo'n sydyn ac rydym yn bryderus am ddiogelwch y dyn os yw wedi mynd i mewn i'r dŵr."
Mae'r heddlu, y gwasanaeth tân a chriwiau achub mynydd, hofrennydd a chychod, yn rhan o'r ymgyrch.
30 o ddiffoddwyr
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod tua 30 o ddiffoddwyr yn rhan o'r ymgyrch.
Mae 'na bum criw wedi eu galw o Aberhonddu, Crughywel a'r Gelli Gandryll.
Mae 'na ddau gwch hefyd wedi eu galw o Abertawe a'r Gelli Gandryll.