Oedi i deithwyr trên de Cymru wedi fandaliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae 'na oedi i deithwyr trên yn de Cymru ar ôl fandaliaeth rhwng gorsaf Casnewydd a gorsaf Severn Tunnel Junction.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru bod 'na drafferthion signal yn ogystal ddydd Gwener.
Mae hyn yn arwain at oedi o ryw 10 munud.
Mae'r teithiau rhwng gorsafoedd Canol Caerdydd a Chaerloyw, a Chanol Caerdydd a Bristol Parkway wedi eu heffeithio.
Mae'r broblem yn cael effaith ar wasanaethau Crosscountry a First Great Western hefyd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol