Agor a gohirio cwest Tom Maynard
- Cyhoeddwyd

Cafodd cwest y cricedwr Tom Maynard ei agor a'i ohirio yn Llundain.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod ar reilffordd yn Llundain fore Llun ac roedd un o drenau tanddaearol Llundain wedi ei daro.
Roedd y cricedwr 23 oed yn chwarae i Surrey ers dechrau 2011 ar ôl gadael clwb Morgannwg.
Cafodd oed a chyfeiriad y cricedwr eu cadarnhau yn y cwest ddydd Gwener.
Clywodd y cwest hefyd bod ei dad, cyn-chwaraewr criced Morgannwg a Lloegr, Matthew Maynard, wedi adnabod y corff yn swyddogol yn gynharach yn yr wythnos.
Doedd neb o'r teulu yn bresennol yn y cwest yn Llys Crwner Westminster.
Dywedodd y crwner, Dr Shirley Radcliffe, bod 'na "ymchwiliad sylweddol" yn parhau i'w farwolaeth.
Cafodd Maynard ei daro gan un o drenau'r District Line ddydd Llun ger Parc Wimbledon.
Fe fydd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Mercher Gorffennaf 4.
Mae'r cwest wedi ei ohirio tan Fedi 24.
Fe fydd Morgannwg, a ohiriodd eu gêm nos Fercher fel arwydd o barch, yn chwarae am y tro cyntaf nos Wener yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton yn y gêm 20 pelawd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2012